Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 12, 2013

Bulnes 2013

Fe fyddi di, ddarllennydd cyson, yn gwybod eisoes taw llwybr pentref Bulnes yw un o’m hoff deithiau cerdded yn y Picos de Europa. Ac roedd un o ‘mrodyr wedi bod yno ddwywaith o’r blaen hefyd, ond doedd y llall ddim, felly bant â ni.

Ar ôl gaeaf oer llawn eira a gwanwyn hir a gwlyb, wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl. Ond mae llwybr Bulnes wedi gwrthsefyll stormydd a rhew canrifoedd (hyd at 2001 dyma’r unig ffordd i gyrraedd y pentreef. Yn awr mae trên o fewn y mynydd.)

P1160746

Roedd hi’n ddiwrnod twym ac o’r gwaelod roeddem ni’n gallu gweld olion yr eira – lan fanna uwchben 1500m. Ac roedd afon Cares a nant yr Ywen yn byrlymu o ddŵr y meirioli.

P1160754

Ond roedd y llwybr ei hun yn sych hyd at fod yn llithrig mewn mannau ar ôl traed y miloedd dros y canrifoedd. Un o’r pethau diddorol am y llwybr hwn, gan ei fod mewn cwm bach cysgodol (rhag y gwynt – roeddem ni’n cerdded o dan haul tanbaid) yw gweld pa flodau sydd yn dangos eu lliwiau.

P1160750

Troed y golomen oedd hi’r tro hwn: mae’n rhai ni lawr ar yr arfordir wedi darfod ers wythnos a mwy.  Canlyniad cerdded gyda’r brodyr yw fy mod yn gorfod mynd yn gynt na’r arfer – awr ac 20 munud i gyrraedd y pentref ac awr (!) i ddod i lawr. Ond na fe, dim ond y prynhawn oedd gyda ni.

Mwy o luniau o’r llwybr hyfryd  hwn fan hyn ac  yma


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: