Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 16, 2013

O’r Ardd: Dala Lan

Diwrnod o haul a’r teulu a’r cyfeillion i gyd wedi mynd adref. I’r ardd!

Cynaeafu perlysiau – mintys y graig, oregano a theim. Bydd angen mis neu ddau arnyn nhw i sychu’n net, mewn hen ridyll ar silff uchel yn y gegin. Mae rhai pobl yn eu clymu nhw wyneb i waered ond mae’r rhidyll yn gweithio imi.

Chwynnu. Y mafon i ddechrau, gan fod y glaw wedi’n rhwystro ni rhag cael gwared o’r gwair sy’n mynnu tyfu drwyddyn nhw.   Mae mafon yn hoffi lle glân.

Plannu. Yr holl blanhigion bach sydd wedi bod mewn potiau yn aros i’r tymheredd godi ychydig. Nawr yw’r amser!

Clirio. Mae’r ffa llydan wedi cwpla. Casglu’r rhai olaf, a thorri’r coesau i fynd i’r compost, ond gadael y gwreiddiau lle maen nhw am sbel. Dywed y traddodiad y bydd hyn yn ffordd o gael fwy o nitrogen i fewn i’r pridd mewn ffordd y bydd planhigion eraill yn gallu ei ddefnyddio. Ond rwyf i wedi darllen yn ddiweddar nad yw hyn ddim yn wir: fod y nitrogen mewn gwirionedd wedi hen symud i’r blodau, ac wedyn i’r ffa, a nad oes llawer ar ôl yn y gwreiddiau. Rhywun yn gwybod beth sy’n wir?


Responses

  1. Rhyfeddu eto eleni bod dy ffa wedi gorffen a’m rai i dal heb eu trosglwyddo i’r ddaear eto!
    Ddim yn sicr am y nitrogen, ond be oeddwn i’n feddwl oedd bod llawr o’r N yn mynd i gynhyrchu ffa, ond os wyt yn rhoi’r pods a’r planhigion ar y compost, mae rhywfaint yn mynd i’r pridd fel’na. Y fantais fwya o’r ‘nitrogen fixing’ gyda ffa ydi nad oes angen gwrteithio gan eu bod yn ei gynhyrchu eu hunain. Mae planhigion parhaol fel eithin yn well am gymryd nitrogen o’r aer a’i ‘rannu’ efo planhigion eraill cyfagos dwi’n meddwl.

    • Diolch am hynny – dod o hyd iddo ar wefan Gardeners Question Time y BBC wnes i. Gyda llaw ‘fabes de mayo’, ffa mis Mai, yw enw ffa llydan fan hyn, sy’n awgrymu eu bod nhw bach yn hwyr eleni! Mae popeth wedi dechrau tyfu o ddifri yn ystod y dyddiau diwethaf gydag ond codiad bach yn y tymheredd – cofnod arall cyn hir.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: