Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 14, 2013

O’r Ardd: Sychder

Rwyf i wedi troi’n ffermwraig o ddifri, yn cwyno am chwe mis am y glaw di-baid, ac yn awr ar ôl dim ond pythefnos o haf hirfelyn tesog yn cwyno bod diffyg dŵr.

Ond mewn gwirionedd, dyna ochr arall ceiniog y calchfaen. Mae’n ein diogelu ni rhag llifogydd, gan ei fod yn llyncu’r glaw mor glou,  ond yn ein gadael yn sych yn ystod misoedd prin yr haf. Mae’r dŵr a gasglwyd oddi ar y to wedi mynd i gyd, a dŵr tap mae popeth yn cael ar hyn o bryd. A’r dŵr sydd yn y bowlen ar ôl golchi llysiau neu lestri. A’r dŵr sydd yn y bwced ar ôl golchi’r llawr. Mae’r coed aeddfed yn iawn; mae’r dŵr a erys yn ddwfn yn y clai o fewn cyrraedd eu gwreiddiau. Ond rhaid dwrhau’r rhai ifanc, fel y goeden afal Enlll

afal Enlli

afal Enlli

gyda’i dau afal. Edrych ymlaen yn fawr at eu blasu nhw!

Cynaeafu fyddwn ni heddiw: y gŵr yn codi tato a minnau’n pigo cwrens duon a gwsberins. Mae digon o berlysiau bach gyda fi sydd angen eu plannu mâs hefyd, ond gyda’r tywydd fel hyn rwy’n credu ei fod yn well eu gadael tan heno o leiaf.

Eithafon y tywydd yw’n gelyn ni’r garddwyr, a digon o waith ceisio lleddfu’r sefyllfa er mwyn cael cnwd da.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: