Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 18, 2013

Llwybr yr Afon: Sychder

Dyw hi ddim yn ffordd gyflym i gyrraedd y traeth, ond o leiaf mae rhywun yn cerdded yng nghysgod y coed drwy gydol yr hanner awr o gerdded. Does bron dim dŵr ar ôl yn yr afon lle mae’n cyffwrdd â dwyrain y pentref, ond rywle ar hyd ei chwrs mae nant ddibynadwy iawn yn ymuno â’r llif. Ac mae wastod yn gyfle i weld trigolion y dorlan:

mantell paun?

mantell paun?

Mae angen cymorth arna’i fan hyn: roeddwn i’n meddwl pan welais i hon gyntaf taw mantell paun oedd hi, ond dwi ddim yn sicr. Dim gwobr, ond diolch o galon i’r sawl sy’n ei henwi.

A phan gyrhaeddais i gartref, roedd y creadur yma yn hongian ar y wal:

P1160918 - Version 2

Roedd e â’i ben tuag at y llawr, ond rwyf i wedi troi’r llun er mwyn ei ddangos yn well. Rwy’n cymryd taw ceiliog y rhedyn (jaci jwmper fel byddem ni’n eu galw nhw pan oeddem yn blant) yw e ond beth yn union does gyda fi ddim syniad.

Mae’r rocedi i’w clywed heno eto: nid y glowyr y tro yma ond gwahoddiad i fiesta rhyw bentref. Mae un bron bob nos yn ystod y pythefnos nesa! Awn ni ddim heno: mae gyda ni ddigon wedi eu trefnu’n barod gyda’r ceufadau, gŵyl caws y pentref, ayyb.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: