Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 12, 2013

Fiesta!

Bu’n wythnos gron o fiestas yn yr ardal eleni, gan ddechrau gyda ras hir y ceufadau i lawr afon Sella o Arriondas i Ribadesella yn yr aber. Ein harfer ni’r cyfeillion yw codi pabell ar y lan ychydig cyn diwedd y cwrs, a mynd a digon o fwyd a seidr ar gyfer diwrnod.

P1160970

Doedd y tywydd ddim yn edrych yn dda, ond mae pobl Asturias fel y Cymry yn gwybod sut i ddod dros ddiferyn (neu filiwn) o law. Ac fe lwyddom ni i ddilyn pob un o’n traddodiadau: bedyddio pawb yn nŵr yr afon, cymeradwyo’r cannoedd o geufadwyr, ac yna cynnig seidr iddyn nhw ar eu ffordd nôl i’r babell fawr lle maen nhw’n cael eu bwyd a’u gwobrwyo. Neb o Gymru eto eleni, ond digon o Iwerddon.

Y ffair gaws yw fiesta fwyaf y pentref, gyda 16 o wahanol gynhyrchwyr eleni. Mae’r rhan fwyaf yn lleol – dwyrain Asturias a gorllewin Cantabria – ond roedd o leiaf un wedi dod dros y mynydd o Valladolid. Eto traddodiad yw’r peth pwysig. Flynyddoedd yn ôl roedd y ffair yn parhau wythnos, a’r da byw yn cerdded yno o bell: erbyn hyn mae gwerthiant da byw, y diwrnod ar ôl y caws, yn rhywbeth digon llipa.

P1170025

Mae pawb yn prynu bara, caws, ham ayyb ac yn symud i’r cae gyferbyn â’r bar i’w bwyta. (Roedd y gwartheg ond wedi gadael y cae wythnos ynghynt – digon o olion!) Ac i ddangos ein safle bach ni, y ddraig goch:

P1170038

Roedd y tywydd yn braf, a’r cyfuniad o faner Cymru a seidr Asturias yn berffaith:

P1170053

Hei leiff!

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: