Roedd ŷd sbelt (triticum spelta yn Lladin) yn cael ei dyfu yng ngogledd Ewrop 3000 o flynyddoedd yn ôl. Diflannodd yn gyfangwbl o Gymru yn amser y Rhufeiniaid, ond mae o hyd yn cael ei werthfawrogi yng nghanolbarth Ewrop ac i raddau yma yn Asturias. Beth sy’n ddiddorol yw bod mwy o alw amdano’r dyddiau hyn.
Er ei fod yn perthyn i deulu’r ŷd, mae nifer o wahaniaethau rhyngddo a’r ŷd sy’n fara beunyddiol inni heddiw. Mae’n cynnwys mwy o brotîn, a mwy o nifer helaeth o elfennau cemegol bychain ond pwysig. Hefyd mae ffurf y gliwten sydd ynddo yn wahanol i’r un arferol, ac mae pobl sydd yn methu treulio gliwten yn gwneud yn well gydag ŷd sbelt. O’r herwydd mae blawd sbelt i’w weld fwyfwy yn y siopau bwydydd iach.
Mae cymydog inni wedi hau escanda (ŷd sbelt) am y tro cyntaf eleni
a mae hi bron yn amser cynhaeaf. Dyw’r ŷd sbelt ddim yn llafur ‘dwys’ felly does dim angen y tir llafur gorau arno, na’i chwistrellu â chemegau . Fe dyfith ar dir ymylol, ac ar dywydd oer a gwlyb. Ac mae wedi cael digon o gyfle i brofi hynny eleni. (Gyda llaw yr enw Sbaeneg ar dir llafur yw tierra labrada – debyg iawn.)
Dyma un rheswm pam na lwyddodd yr ŷd sbelt i oroesi ym myd amaethyddiaeth fodern: ei dywysennau.
Maen nhw’n rhydd, ac yn llaesu fwyfwy wrth aeddfedu. Mae’r plisgyn yn galed hefyd, sy’n gwneud y gwaith o ddyrnu yn drymach. Ond mae’r plisgyn caled yn diogelu’r grawn rhag plâu a phryfed, felly’r arfer heddiw yw danfon y cwbl i’r felin. Dyw e ddim yn cael ei ddyrnu tan fydd angen ei falu.
Tuedd amaeth heddiw yw tuag at y mawr, a’r mawr iawn. Ac wrth i boblogaeth y byd gynyddu a gofyn gwell fwyd, bydd angen cynhyrchu mwy. Ond mae ŷd sbelt yn enghraifft o rywbeth a allai gael ei gynhyrchu ar dir nad yw’n gynhyrchiol o gwbl nawr. Pan fydd y gwledydd cyfoethog newydd – Tseina a De’r Amerig, yr India a rhai o’r gwledydd Arabaidd, yn dechrau cymryd eu siâr o’r bwyd oedd gynt yn dod i Ewrop, efallai bydd hi’n bryd ail-ystyried ŷd sbelt a’i debyg.
O ie, maen nhw’n dweud ei fod yn dda ar gyfer toi gwellt hefyd am fod ganddo goesau hir.
Hod ddifyr, a dy awgrym fod angen ail-ystyried sbelt yn werth cnoi cil drosto. Mae’r arbennigwr paramaethu Sepp Holtzer yn tyfu spelt uwchben 1000m yn Awstria, felly’n werth ei ystyried ar dir gwael ucheldir Cymru hefyd! Mae rhai o’r cwmniau pobi ‘artisan’ yn sicr yn codi prisiau mawr am dorth sbelt..
By: Wilias on Awst 25, 2013
at 8:47 pm
Ie, mynd nôl mewn ffordd i ‘dyfu beth sy’n tyfu’ a bwyta hwnnw yn lle mewnforio cymaint. Gyda llaw, ac yn symud i bwnc hollol wahanol, wyt ti’n digwydd nabod unrhyw un sy’n gwybod am weithfeydd manganîs Meirionnydd?
By: cathasturias on Awst 27, 2013
at 2:50 pm
Y bobl fyswn i’n eu holi am weithfeydd gogledd Meirionnydd fyddai Steffan ab Owain a Vivian Parry Williams yn Stiniog, ond efallai mai’r archifydd sirol yn Nolgellau ydi’r pwynt cyswllt gorau? archifau.dolgellau@gwynedd.gov.uk
By: Wilias on Awst 31, 2013
at 12:06 am
Diolch yn fawr! Roedd rhyw J.A.Jones yn rhannol gyfrifol am ddatblygu mwynfeydd manganîs y Picos de Europa (c. 1890), a byddai’n dda gwybod mwy amdano – dim syniad eto a oedd yn dod o Feirionnydd ai peidio.
By: cathasturias on Awst 31, 2013
at 4:50 pm
Hynod ddifyr oeddwn wedi fwriadu sgwennu!
By: Wilias on Awst 25, 2013
at 8:48 pm