Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 2, 2013

O’r Ardd: Ffrwythlondeb

Toreth o bethau da yn barod yn yr ardd. Y goeden afal Enlli, er enghraifft, wedi llwyddo i gynhyrchu dau afal hyfryd yn ei blwyddyn gyntaf yma (roedd hi eisoes yn ddyflwydd pan gyrhaeddodd hi).

P1170114

Yn ni wedi bwyta un yn barod, ac mae’n wir, mae arogl lemwn arnyn nhw, a blas ychydig yn sitrig hefyd. Afal da i wneud salad gyda chnau Ffrengig a thipyn bach o gaws gwyn, weden i.

Doedd y mafon ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd iddyn nhw gyda’r tywydd eleni – misoedd o law ac yna sychder. Ond o’r diwedd mae’r ffrwythau sgarlat yn chwifio o bob cansen.

P1170116

Mae’r tato a’r wynwns yn sychu yn yr haul (a’r gwynt – o’r dwyrain heddiw ac yn ffyrnig ar brydiau), a’r tomatos tua mis ar ôl eu hamser arferol ond yn dod yn dda. Ond mae amheuaeth gyda fi a fydd y ffigys gystal eleni. Maen nhw’n dal yn fychan iawn er gwaetha’r tywydd braf.

Ac wedi’r ymfalchio yn y cynnyrch, bydd rhaid troi eto at y tocio a’r clirio a’r plannu ar gyfer y flwyddyn nesaf.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: