Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 6, 2013

Hanes Byw

Nid adolygiad fydd y cofnod hwn, oherwydd newydd ddechrau darllen y llyfr ydwyf. Pan welais i drydariad amdano roeddwn yn gwybod bod rhaid imi ei brynu, ac yn awr mae wedi cyrraedd. Mae’r teitl yn dweud y cwbl: The Life and Death of the Spanish Republic. Ond nid llyfr o hanes rhyfel na gwleidyddiaeth yw hwn. Roedd yr awdur, Henry Buckley, yn newyddiadurwr yn Sbaen, yn ohebydd i’r Daily Telegraph. Ac yn Gatholig ffyddlon – wrth fyw yn Sbaen a gweld sut oedd y dosbarth uchaf yn trin pawb arall, fe ddaeth yn gefnogol i’r wladwriaeth a’i hamcanion.

Roedd yn ‘nabod pawb. Ac mae hynny’n rhoi haen arall o esboniad ar ddigwyddiadau. Digon hawdd cael gwybod bod Primo Rivera, yr unben o brif weinidog o dan Alfonso XIII, yn hen pan gafodd ei orfodi i ymddiswyddo gan y fyddin. Ond dyw hynny ddim cystal â gwybod ei fod hefyd yn sâl ac wedi blino (oherwydd roedd Buckley yn ei wylio, ac yn siarad gydag ef a’i ddilynwyr yn gyson).

Es i’n syth at y mynegai i chwilio am chwyldro Asturias (mis Hydref 1934). Ac ar unwaith fe ddysgais i rhywbeth sy’n esbonio’r diffyg sylw gafodd y chwyldro hynod hwn yn y papurau tramor.  Fe gododd y glowyr a’u cynghreiriaid ar Hydref 4, gyda’r nos. Ymhen dim roedden nhw wedi torri’r lein rheilffordd, y brif ffordd i fynd o Madrid i’r dalaith. Pan glywodd gohebwyr papurau Llundain a Washington, oedd wrth gwrs i gyd yn Madrid, fe aethon nhw ati i geisio trefnu teithio i’r arfordir gogleddol, ond cyn iddyn nhw allu wneud hynny, fe laddwyd gweinidog tramor Ffrainc a brenin Iwgoslafia yn Marseilles, gan ‘derfysgwr’ o Masedonia.

Does dim eisiau gofyn beth oedd yn fwy pwysig yng ngolwg golygyddion tramor y wasg Saesneg ei hiaith, ar y naill ochr i’r Iwerydd a’r llall. Dim ond cofio canlyniadau erchyll llofruddiad arall gan Falcanwr 20 mlynedd ynghynt: Marseilles amdani.

Mae’r math yma o fanylion yn dod â’r peth yn fyw imi: bydd mwy i ddod o’r llyfr hwn!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: