Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 11, 2013

O’r Ardd a’r Gegin

O’r diwedd mae’r gwartheg wedi rhoi’r gorau i’w galaru. Mae hanner dwsin ohonyn nhw yn y cae gyferbyn, ac maen nhw wedi bod wrthi ddydd a nos gyda sŵn dychrynllyd sydd rhywbeth rhwng brefu, llefain a rhuo. A hynny am fod eu lloi bach wedi mynd, y cwbl wedi eu gwerthu ar y farchnad gig. Dydyn nhw ddim wedi mynd i’r lladd-dy eto; a dweud y gwir maen nhw mewn cae arall o fewn y pentref, yn nes at yr heol fawr. A dydyn nhw ddim i’w gweld yn becso dim, maen nhw wrthi’n mentro i bob rhan o’u cartref newydd ac yn chwarae-ymladd â’i gilydd. Ond mae’r mamau yn gweld eu heisiau nhw. Diolch byth eu bod nhw nawr wedi mynd nôl i bori, a dim ond eu clychau sydd i’w clywed.

Rwyf i fel bob mis Medi wrthi’n prosesu tomatos, kilos ohonyn nhw, i saws a phlatiau o domatos rhost gyda garlleg a theim, ar eu ffordd i’r rhewgell.  Ac erbyn y penwythnos rwy’n credu bydd y cyntaf o’r ffigys yn barod, achos mae’r rhai mwyaf yn dechrau melynu a meddalu. Mae’r mafon yn dioddef gan y glaw sy’n dod bod yn drydydd diwrnod, ond ŷn ni wedi cael digonedd o”r rheiny hefyd. Ac am y tro cyntaf rwyf i wedi gweithio coeur a la crème i fynd gyda nhw. A dyma´r rysait:

200g caws gwyn hufennog, llond llwy ford o hufen ddwbl, sudd hanner lemwn, 50g siwgir.

Curo’r cwbl nes ei fod yn llyfn. Dodi fe o fewn mwslin (lliain gaws) mewn plât â thyllau fel hwn

P1170155

neu hidlwr ar ben bowlen. I’r oergell dros nos, ac erbyn y bore fe fydd yr hylif wedi suddo i’r bowlen a’r lliain. Rwy’n hanner meddwl defnyddio hwn fel eisin i’r deisen foron hefyd.

P1170154


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: