Ymhen yr awr fe fyddwn yn gwybod pwy sydd wedi ennill taith heddiw yn y Vuelta a España – cylchdaith seiclo Sbaen. Ond imi y peth pwysig oedd bod y beicwyr eleni yn gwibio ar hyd yr hen heol fawr ar odre’r pentref.
Ar ôl gweld pasio dwsenni – na, ugeiniau – o heddlu yn eu ceir ac ar gefn beiciau modur, dyma pen y ras yn dod i’r golwg, yn dringo’r tyle ar ôl croesi afon Guadamía.
Escapada – grŵp dihangol – o ryw 15 o feicwyr oedd yn arwain, wedi llwyddo i adael y peloton yn ystod 40km cyntaf y ras.
A dyma ddau o’r peloton yn gwneud eu gorau glas i gadw lan a’r gweddill.
Yfory yw’r diwrnod i’r bobl sy’n hoff o fynyddoedd: bydd y Vuelta yn aros o fewn Asturias ac yn cwpla ar ben rhiw’r Angliru, un o’r mwyaf serth, a mynydd a gafodd ei ddewis yn unswydd am ei fod yn anodd – 12.km ar yr heol, dringo dros 1200m, a pheth o hwnnw yn 24% serth.
Ar y teledu y byddaf i’n ei wylio. Ac os oes unrhyw un yn gwybod termau seiclo Cymraeg rho wybod!
Peleton yn gweithio ymhiaith tydi!
Oes yna drafod a chynnwrf acw bod tim Euskaltel Euskadi yn trosglwyddo i fod yn dim Astwraidd y tymor nesa dan gyllid y gyrrwr F1, Alonso?
Clec i’r Basgwyr, mae’n siwr, ond newyddion gwych i gefnogwyr Sanchez efallai..
By: Wilias on Medi 13, 2013
at 11:17 pm
Pawb yn Asturias yn falch iawn gweld tîm proffesiynol yn cael ei sefydlu yma, wrth gwrs. Gyda llaw pan basiodd Sanchez ddoe, yng nghanol y peloton yr oedd e – ar ôl dim ond 45km o’r 180, a hynny y rhai hawsaf.
By: cathasturias on Medi 14, 2013
at 10:16 am
‘ym mhob iaith’ oeddwn yn geisio’i deipio!
By: Wilias on Medi 13, 2013
at 11:18 pm