Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 18, 2013

Llwybr Arfordir Asturias

Y diwrnod o’r blaen, wedi gadael y car i gael ei driniaeth ‘cyn-y-prawf’, fe gymeron ni’r bws i Villahormes a cherdded adre ar hyd llwybr yr arfordir – 14km atr y llwybr GR 204, a 2km ar lan yr afon. Cyn ddisgrifio’r daith, hoffwn i wneud dau bwynt: yn gyntaf, dyw llwybr arfordir Asturias ddim yn gyfan eto, ac yn ail, mae’n wahanol iawn i lwybr arfordir Cymru. Mae rhannau helaeth yn dilyn heolydd (cul a thawel) ac yn mynd drwy pentrefi heb olwg o’r môr. Mae’r rhannau sy’n edrych fel ein llwybr ni yn llydan ac yn aml iawn gydag arwynebedd o dywod/cerrig mân, sydd yn eu gwneud yn rhwydd iawn i gerdded.

P1170159

capel Santa Olaya

O safle’r bws yn Villahormes (gyferbyn â gorsaf y trên), rhaid dilyn arwydd brown ‘Playa de la Huelga’, i’r gogledd. Ar ôl rhyw 10 mumud, pasio’r capel hwn, capel yn yr ystyr ei fod yn perthyn i eglwys y plwyf. Ac mewn llai na 10 munud arall dyma ni yn nhraeth la Huelga, gyda’r hen felin.

Playa de la Huelga

Playa de la Huelga

Bydd y rhai sy’n deall ychydig o Sbaeneg wedi dod ar draws y gair huelga yn golygu streic, ond nid felly fan hyn. Yn ôl Geiriadur yr Academi Sbeinig, mae ystyr cwbl wahanol, wedi dod o ieithoedd Ibero-Celtaidd, ‘man ffrwythlon iawn ar gyfer amaethu’. Ac yn wir dyna yn union yw’r rhan nesaf o’r daith, drwy ardal sydd hefyd yn dwyn yr enw la Huelga.

Wrth neshau at bentref Ovio ar ddiwedd y caeau india-corn, mae golygfeydd arbennig: i’r gogledd, y môr, a chapel bach arall, i San Antonio y tro hwn, ac i’r de, yr ysblennydd Picos de Europa

P1170172

Ar ôl pasio drwy Ovio, a phentref bach arall o’r enw Picones, dyma ni’n cerdded yn braf o fewn golwg y môr eto, a chyrraedd yr hen ffermdy hwn ar y dde:

P1170177

A dewis gadael y llwybr swyddogol i fynd o gwmpas y penrhyn i gyfeiriad y capel a thraeth bach arall. Does dim arwyddion fan hyn, dim ond dilyn llwybr gweddol amlwg cyn ymuno â’r llwybr mawr eto (ar ôl pasio drwy un darn serth ond byr lle mae’r rhedyn bron â chwrdd uwch dy ben). Mae dau gyfle i fynd i ddraethau bach gwag: traeth San Antonio, llwybr amlwg ar y dde cyn dringo’r tyle tuag at y capel, ac un arall sy’n perthyn i draeth Cuevas del Mar, eto wrth droi i’r dde yn union cyn y rhedyn.

Mae Cuevas del Mar ei hun yn draeth poblogaidd a phoblog, a lle da i aros am wydriad bach o seidir, neu am ginio.  Ac yno wnewn ni adael pethau am heddiw.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: