Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 19, 2013

Hela Arteithwyr Franco

Mae barnwraig yn yr Ariannin wedi gofyn i awdurdodau Sbaen arestio pedwar dyn am y rhan a chwaraeon nhw yn cadw unbeniaeth Franco i fynd. Dywed yr hawlwyr eu bod nhw i gyd wedi arteithio diffynyddion yng nghelloedd yr heddlu yn Madrid ac yng Ngwlad y Basg. Ymysg yr hanesion, curiadau â dyrnau, ac â chadwyni haearn. A hynny, ar un achlysur ac yn ôl tyst ‘am nad oeddem yn hoffi’i wep’.

Beth sydd a wnelo hyn oll a’r Ariannin? Does yr un o’r pedwar yn byw yno. Y ffaith yw nad yw awdurdodau Sbaen yn ymchwilio i gwynion am artaith o dan reolaeth Franco, nac yn gadael i eraill wneud hynny. Maen nhw’n honni nad yw’r trefniadau a wnaed ar gyfer symud tuag at ddemocratiaeth ar ôl marwolaeth yr unben yn caniatau’r fath ymchwil.

Mae Amnesti, yn un, wedi eu beirniadu’n hallt, gan ddweud bod hyn yn gwarantu na fydd yr euog yn wynebu cosb o unrhyw fath. Mae llawer o’r achosion sy’n dod i sylw’r grŵp sy’n ceisio dwyn yr achosion at ei gilydd yn dyddio o’r rhyfel, fel un Gregorio Mateos, o Navas yn Asturias, aelod o’r PSOE a’r UGT (fel bod yn aelod o undeb llafur a’r Blaid Lafur.) Ym 1938 roedd e’n ceisio teithio oddi yno i Gatalwnia, lle’r oedd y weriniaeth yn dal i reoli. Fe’i roddwyd o flaen llys o filwyr (er nad oedd ef yn filwr) , ei ddedfrydu, ei saethu’n farw, a throi’i deulu o’u tŷ, yn ôl ei wyr.

Ond mae’r pedwar dyn sy’n wynebu achosion heddiw yn llawer ifancach. Roedden nhw, yn ôl yr honiadau, yn gweithredu yn niwedd y 60au a dechrau’r 70au, hyd at farwolaeth Franco ym 1975 (yng Nghymru ar yr un pryd, roeddem yng nghanol ymgyrch y sianel deledu Gymraeg).

Go brin y bydd yr un ohonynt yn cael ei arestio yn Sbaen. Ond petai’n teithio i wlad arall sy’n aelod o Interpol….wel, cofia achos Pinochet. Dyma’r enwau:

Jesús Muñecas Aguilar, aelod o osgordd Franco; Celso Galván Abascal;  José Ignacio Giralte González; a José Antonio González Pacheco, alías Billy El Niño. (Billy the Kid!)


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: