Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 29, 2013

Garddio yn y Gymraeg

Er gwaetha’r tywydd da, rwyf i wedi bod ynghlwm wrth y sgrîn fach – yn darllen blogiau pobl eraill. Mae cymaint o bobl yn blogio yn y Gymraeg erbyn hyn, yn enwedig ar fy hoff bynciau i: bwyd, garddio, yr amgylchedd a gwleidyddiaeth. Ceir rhestr anhepgor gan Hedyn fan hyn

Gadewn ni’r gwleidyddol am y tro a disgwyl ar beth sydd ar gael yn y categoriau eraill. Mae darllen am lwyddiant a phroblemau garddwyr eraill nid yn unig yn ddiddorol ond yn gymorth. Efallai nad yw safle daearyddol rhandir Wilias yn ucheldiroedd ‘Stiniog yn debyg iawn i beth sydd gyda ni ar arfordir Asturias, ond mae ei flog Ar Asgwrn y Graig wastad yn rhoi syniadau newydd imi (fel y crib i gasglu ffrwythau bach) ac weithiau’n gwneud imi werthfawrogi’r hyn sydd gen i (gŵr sy’n garddio hefyd!). Fan hyn wnes i ddysgu am afalau Enlli, a nawr mae gyda ni goeden fach ffrwythlon.

Rhandir arall y byddaf yn ei ddilyn o bell yw’r un dinesig sy’n darparu deunydd Hadau. Maen nhw’n esbonio’n glir yn union beth maen nhw wedi gwneud wrth baratoi a phlannu, ac yn mwynhau’r cynhaeaf. Does dim byd wedi ymddangos ers mis Gorffennaf ond fel arfer mae lluniau da yma, ac o bryd i’w gilydd newyddion am fywyd heb gar, gan gynnwys mentro mas o’r ddinas i deithio i lefydd diarffordd. Angen llawer o drefnu ymlaen llaw.

Ffefryn newydd yw bwyta gwyllt, eto’n awgrymu’n ddigon plaen beth fydd ei gynnwys. Hyd yma (gan ei fod e wedi dechrau ym mis Medi) ffrwythau ac aeron y perthi a’r coed, a’r cyffaith y mae’n bosib ei wneud, yw ei bwnc, ond rwy’n edrych ymlaen at ddarllen beth sydd ganddi/o i’m dysgu am ddail a ffwng – a blodau? – bytadwy.

Un arall sy’n newydd imi yw Cadw Rhandir – y tro hwn yn y Groeslon. Mae’r pâr yma i weld yn dechrau arni o ran tyfu llysiau yn y rhandir, ond yn cymryd rhan yn y busnes o redeg y lle hefyd. Ac maen nhw’n defnyddio gwymon fel gwrtaith i’r tato – diddorol.

Reit, dim esgus: nôl at y chwynnu! A gobeithio gweld mwy o flogiau garddio o wahanol rannau o Gymru dros y gaeaf. A llun bach o domatos i’n cadw ni fynd tan hynny.

P1170105


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: