Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 22, 2013

Carcharorion ETA Eto

Rwyf i wedi gweld bod achos Ines del Rio yn cael sylw o leiaf rhai o gyfryngau’r DU.  Fe gafodd y weithredwraig ETA ei rhyddhau o’r carchar yn Galicia y prynhawn yma yn dilyn penderfyniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg.

A dyna un o’r pethau sy’n ddiddorol. Dyw llywodraeth Sbaen ddim o blaid ei rhyddhau, nac a dweud y gwir llawer o ddinasyddion Sbaen, ond doedd dim dwywaith amdani: o fewn 24 awr roedd y Goruchaf Lys wedi gorchymyn ei rhyddhau. Sdim ond eisiau meddwl sawl blwyddyn mae llywodraeth y DU wedi bod yn osgoi dilyn y penderfyniad oedd dweud bod nacau hawliau pleidleisio carcharorion yn anghyfreithlon.

Y cefndir: fe cafwyd del Rio yn euog ym 1987 o gymryd rhan mewn 23 o ymosodiadau marwol fel rhan o’r ymgyrch terfysglyd i gael annibyniaeth i Wlad y Basg. Fe’i dedfrydwyd i dros 3000 mlynedd o garchar, ond yn ôl y rheolau ni allai gael ei charcharu am fwy na 30. Fel pob carcharor roedd yn cael y cyfle i ennill lleihad ar yr amser hwnnw drwy ymddwyn yn dda a gweithio o fewn y carchar. Ond wedyn fe benderfynodd llys, mewn achos etarra arall, Henri Parot, y dylai’r lleihad gael ei gyfri yn erbyn cyfanswm y ddedfryd (yn achos del Rio, 3000 mlynedd) yn hytrach na’r 30. Mae’r cynllun yn gyffredinol felly yn cael ei adnabod fel doctrina Parot. 

Roedd Ines del Rio wedi gwneud digon i sicrhau ei rhyddhau yn 2008. Ac fe aeth â’i hymgyrch yn erbyn Parot i Strasbourg.  Fe all fod nifer yr etarras eraill sy’n cael mynd â’u hachosion i Strasbourg gymaint  â 50.

A dyna beth diddorol eto: er gwaetha’r symud mawr sydd wedi bod ym mhroses heddwch Gwlad y Basg, does dim cynllun o ryddhau carcharorion ETA ar drwydded. Yn wahanol iawn i’r hyn a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon, dyw’r awdurdodau Sbeinig ddim yn ei gweld yn llwybr fyddai efallai’n gwella pethau. I’r gwrthwyneb. Maen nhw am gadw’r bobol hyn yn eu celloedd mor hir â phosib.

 


Responses

  1. Diolch am ein hatgoffa o hyn. Dychrynllyd wir.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: