Mae’r gwres wedi darfod. Nid ei bod yn oer nawr, dim ond yn ffres, a’r gwynt weithiau’n ddigon main. Bythefnos yn ôl dyma oedd llun y môr o glogwyni Castro Arenes:
Yr un un lliw gwyrddlas Caribîaidd sydd wedi bod drwy’r haf bron. Yn awyr yn dawel a’r tonnau ynghudd. Wythnos ddiwethaf, o fewn y bae, roedd popeth yn wyrdd:
A heddiw dyma ni ar odre gwyntoedd yr hydref, a gwyn brigau’r tonnau yn gorchfygu pob lliw arall.
Roedd hyd yn oed awgrym o enfys, a ddiflannodd cyn imi dynnu ei llun. Fe allwn i fod wedi treulio gweddill y prynhawn yno, ond rhaid dychwelyd i’r tŷ er mwyn tynnu’r tomatos o’r sychwr. Mae wastod rhywbeth am y môr, neu am y gwrthdaro dibendraw rhwng môr a thir, sydd yn ddewiniaeth imi, yn fy nhynnu i fewn a’m cadw yno. Ond dyna fe, roedd gwaith yn galw.
Gadael Ymateb