Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 18, 2013

Chwaraeon Sanctaidd

Ddiwedd y mis byddwn ni’n mynd i fiesta’r pentref nesaf. Mae Gŵyl San Zornin, yn Astwreg, neu San Saturnino yn Sbaeneg, yn cael ei dathlu ar y 29ain o Dachwedd. Diwrnod a noswaith yn gwisgo cot fawr a scarff yw hi! Ar ôl yr offeren, cynhelir chwaraeon gwledig o amgylch y pentref. Yn gyntaf, tynnu gan geffylau. Mae pob anifail yn cael ei bwyso, ac yna bydd car llusg yn cael ei lwytho â phren – boncyffion fel arfer – i’r un pwysau a’r ceffyl hwnnw. Mae’r creadur yn cael ei arwain o gwmpas y cae wrth y traeth nes bydd yn gwrthod mynd ymhellach, a’r un sy’n cario ymlaen dros y pellter hwyaf sy’n ennill.

Am 6 y nos mae’n dechrau nosi, a’r cae yn mynd yn faw, hyd yn oed os na fydd hi’n bwrw. Amser i ruthro nôl i ganol y pentref.

Wedyn, tro’r dynion, a’r menywod, a’r plant, yw hi i dynnu rhaff. A gyferbyn ag un o’r barau’r pentref, mae bolera; lle chwarae ceilys (sgitls) sy’n berffaith ar gyfer tynnu rhaff.  A weithiau bydd rasus traddodiadol hefyd, gyda’r rhedwyr yn cario caniau llaeth neu ysgub. Ac ar ôl hyn i gyd, wedi yfed y seidr melys (y sudd cyntaf o’r wasg), ac wedi bwyta cnau castan rhôst, mae’n amser dawnsio. Diolch byth eu bod nhw’n codi pabell fawr dros y sgwâr, achos mae’n bwrw glaw yn amlach na heb.

Es i ati i chwilio a oedd San Zornin yr un person a’r Sadwrn sy’n cael ei gofio yn enw Llansadwrn, ond mae’n debyg eu bod nhw’n bobl hollol wahanol, yn byw ddwy ganrif ar wahan. Brawd sant enwocach, Illtud, oedd Sadwrn Cymru. Roedd Zornin neu Saturnino yn esgob Toulouse yn ne Ffrainc, a arferai deithio o gwmpas Sbaen i genhadu. Ond mae’n deg dweud na fydd llawer o fynychwyr y fiesta yn mynd yno er mwyn ei goffau: mae’r offeren yn rhan o’r digwyddiad cymdeithasol erbyn hyn, yn lle bod y chwaraeon yn atodiad i’r weithred grefyddol.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: