Mae digon wedi ymddangos ar y cyfryngau yng Nghymru/DU yn adrodd hanes y deddfau newydd yn Yr Aifft fydd yn gwahardd gwrthdystio heb ganiatad. Ond a wyddost ti fod rhywbeth tebyg iawn yr olwg (neu’r drewdod) yn digwydd yma yn Sbaen?
Heddiw mae cyngor y gweinidogion (cabinet y llywodraeth adain-dde) wedi cytuno drafft Deddf Gwarchod Diogelwch y Dinasyddion – os bu gwaeth enw erioed! Unwaith eto fel yn yr Aifft, y bwriad yw cyfyngu ar allu pobl i ddangos eu barn os bydd y barn hwnnw’n groes i farn y llywodraeth. Ymysg y prif nodweddion dddaeth yn amlwg heddiw, cymal fydd yn sefydlu dirwyon o hyd at €30,000 am eiriau neu bosteri sy’n ‘wrthun i wladwriaeth Sbaen neu i unrhyw un o’r cymunedau awtonomaidd’. Gwrthun. Fydd poster yn hawlio annibyniaeth i Gatalwnia yn wrthun i wladwriaeth Sbaen?
Roedd y gweinidog yn ansicr iawn yn ateb cwestiynau manwl, yn ôl yr adroddiadau. Chwibanu dros anthem Sbaen, fel sydd wedi digwydd droeon fel protest dros Gatalwnia neu yn erbyn y frenhiniaeth? O, mae hwnnw’n dod o dan y ddeddf sy’n rheoli meysydd chwarae. Ond mae’n edrych imi fel un o’r deddfau hynny fydd yn cael ei datblygu gan y llysoedd. Fe fydd, rhaid dweud, yn cynnwys rhai cymalau a all gael eu cyfri wedi ‘gwarchod diogelwch’ – yn erbyn anelu golau laser at yrwyr, neu ddifrodi eiddo cyhoeddus. Ond paid â disgwyl imi gredu nad oedd y rhain eisoes yn anghyfreithlon o dan ddeddfau eraill.
Mae’r llywodraeth eisoes wedi gorfod lleddfu ychydig ar eu cynlluniau. Mae’r dirwy arfaethedig ar gyfer gwrthdystio o flaen y Senedd heb ganiatad wedi gostwng o €600,000 i €30,000, a hwnnw am sarhau aelodau o’r heddlu yn ystod gwrthdystiad i lawr o €30,000 i €1000. Ond mân blu yw’r rhain. Mae’r aderyn ei hun yn pesgi ac ar fin hedfan.
Gadael Ymateb