Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 4, 2013

Addysg Asturias

Dim ond nodi’r ffaith fod disgyblion Asturias wedi gwneud yn dda yn y profion PISA eleni, a rhai Cymru ddim cystal. Roedd canlyniadau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth yma yn Asturias yn cyrraedd neu’n uwch na’r gyfartaledd (500 union ym math, 504 darllen, 517 gwyddoniaeth), ac fe ddaeth Asturias yn 5ed o’r 14eg gymuned awtonomaidd yn Sbaen.

Dwy wlad debyg ydyn nhw mewn lot o ffyrdd. Ysgolion cefn gwlad, ysgolion cymoedd glofaol wedi colli’u glofeydd, ysgolion ardaloedd dinesig gyda chanran eitha uchel o ymfudwyr. Llywodraethau o’r chwith. Diffyg gwaith.

Dwi ddim yn gwybod beth yw’r rheswm am y gwahaniaeth. Ond rwy’n siŵr na fydd deddf addysg newydd llywodraeth Madrid yn gwneud pethau fan hyn yn well. Maen nhw yn ceisio torri nôl ar gymorthdal i fyfyrwyr Erasmus, mynnu mwy o amser dosbarth i grefydd, ac ariannu ysgolion sy’n dysgu merched a bechgyn ar wahan. Mae nifer o’r cymunedau eisoes wedi dweud na fydden nhw’n dilyn gofynion y ddeddf. Gall fod yn ddiddorol.

 


Gadael sylw

Categorïau