Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 8, 2013

Nadolig yn Nesáu

Heddiw byddaf yn troedio tir Paned a Chacen! Fe’n gwahoddwyd i ddathlu penblwydd cymydog, cinio traddodiadol gyda’r teulu a chyfeillion. Ac wedi meddwl beth allwn i gyfrannu, dyma penderfynu gweithio mins peis. Roeddwn yn weddol aicr na fyddai’r un o’r gwesteion wedi’u blasu nhw. (Anghywir! Mae Marisa, sy’n athrawes Saesneg, yn dwlu arnyn nhw.)

Roeddwn i wedi gwneud y mincemeat yn barod, gan ddefnyddio ffigys wedi’u sychu, croen oren siwgrog, sudd oren a gwydraid o triple sec (gwirod oren) yn ogystal ag afal a chwrens a siwgr. Ac roedd gyda fi paced o muffin cases bychain sydd fel arfer yn cael eu defnyddio i ddal siocledi.

P1170402

Fe wnes i’r crwst yn y magimix, 200g o gan, 100g o siwgr, 100g o fenyn, un ŵy a 30ml o ddŵr. Ac yn lle dodi fe yn yr oergell am awr, fe aeth i’r stafell sbâr sydd ddim yn cael ei wresogi ac yn aros tua 10C. Rhowlio fe’n denau denau wedyn; roedd y cyllell palette i’w gadw rhag glynu. Ond sut i’w dorri mâs? Dim ond 4cm ar draws yw’r papurau bach, a llai ar y gwaelod. Roedd y torwyr siapau i gyd yn rhy fawr. Gwydr flute champagne, wrth gwrs! Mor gul ei fod yn berffaith at y gwaith.

P1170403

Roedd y cymysgedd yn ddigon i 32 o beis bychain, a wnes i ddefnyddio tua 250g o mincemeat (llond llwy de i bob un). 15 munud yn y ffwrn ar 2ooC, a dyna nhw’n barod at y parti.

P1170404

Ac ie, roedd pawb yn eu mwynhau nhw.


Responses

  1. Swnio ac yn edrych yn flasus dros ben. Rwy’n cofio mynd â bocs o fins peis draw i Gijón unwaith a phawb yn eu mwynhau hefyd. Yn anffodus fyddwn i ddim yn mentro ceisio gwneud rhai cartref a gan fod Tesco lawr yr heol….

    • diolch Gordon – Cawsom ni queimada gallega ar ddiwedd y pryd ond roeddwn i wedi anghofio mynd â’r camera. Felly bydd rhaid imi adael y disgrifiad o’r bowlen fawr a’i fflammau glas tan yr un nesaf, neu gwneud un fy hun.

  2. Y mincemeat cartref yn swnio’n dda… wyt ti wedi cyflwyno cacen gri/pice ar y maen iddyn nhw?

    • Dyna fydd y peth nesa. Ond yn gyffredinol mae pobl fan hyn yn hoff iawn o’n cacenni ni yn union am nad ydyn nhw’n rhy felys. Wrth fwyta rhai o’r teisennau Sbeinig rwyt ti’n gallu teimlo dy ddannedd yn protestio!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: