Mae Parc Cenedlaethol y Picos de Europa yn anialwch ysblennydd sydd hefyd yn weithle i gannoedd o bobol ac yn denu tua 2 filiwn o ymwelwyr y flwyddyn. Tri phegwn, felly (os yw’n bosib cael 3 phegwn?): yr ecolegwyr, y ffermwyr, a’r diwydiant twristiaid, i gyd yn ceisio cael rhedeg y lle fel maen nhw eisiau.
Effaith y dadlau ar rai o’r anifeiliaid mawr prin sy’n byw yno yw pwnc y cofnod heddiw. Rwyf i wedi ysgrifennu cofnodion ar bob un yn y gorffennol, ond mae’n werth diweddaru a dod â phopeth at ei gilydd. Yn gyntaf, yr arth. Ychydig iawn o eirth sy’n byw yno erbyn hyn, 30 yn ôl y cyfri diwethaf; mae llawer mwy, ond eto ychydig o ran nifer (180), yng ngorllewin Asturias. A does neb yn dadlau na ddylid diogelu’r arth cynhenid, ursus arctos. Aeron yw ei brif fwyd, er ei fod yn gwneud peth difrod i gychod gwenyn lle na fydd rheiny wedi cael eu hamgylchynnu gan furiau. Flynyddoedd yn ôl, roedd pethau’n wahanol. Mae hen chwedlau am eirth yn ymosod ar bobol, a llawer o enwau llefydd yn y Picos yn cynnwys elfennau yn ymwneud ag eirth.
Does dim dadlau chwaith ynglŷn â’r adar. Doedd dim un fwltur barfog ar ôl 4 blynedd yn ôl: o’r ddau gyw a fagwyd yma bryd hynny, mae un a elwid yn Deva (enw afon yn nwyrain Asturias) yn dal yn fyw ac yn awr yn hedfan o gwmpas gyda chyfaill – neu efallai cymar! Cyrhaeddodd un arall o’r Pirineos y llynedd, a bydd 30 yn cael eu symud draw yn ystod y 5 mlynedd nesaf. Rhieni gwael ydyn nhw, yn ôl y naturiaethwyr, a lle bydd pâr wedi methu magu cywion iach am 3 blynedd yn olynol, mae dringwyr yn dwyn yr wyau ac yn dod â nhw i’r Picos i gael dechrau bywyd yma. Dim ond unwaith yr wyf i wedi gweld un yn hedfan, ond maen nhw’n anferth – 3m o un pen adain i’r llall. A gan eu bod yn bwyta esgyrn, dim yn bygwth da byw.
Mae grugiar y coed, Tetrao urogallus cantabricus, yn brinnach fyth. Does neb yn siŵr iawn faint sydd ar ôl yn y Cordillera Cantabrica fel y cyfryw, ac mae’n bosib nad oes yr un o fewn ffiniau’r Picos. Ond mae Asturias a’r cymunedau cymdogol, Cantabria, Castilla y Leon a Galicia, yn cydweithio i geisio ailgyflwyno’r aderyn. Nid ffermwyr yw’r broblem, ond helwyr. Maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Sy’n dod â ni at y blaidd. O bois bach. Sut y mae cael cytundeb? Gadael y bleiddiaid i luosogi fel y maen nhw ar hyn o bryd, a byddwn ni’n gweld diwedd cyfundrefn hafod a hendre arbennig a hynafol iawn sydd wedi bodoli ym mynyddoedd y Picos ers 2000 o flynyddoedd. Mae’r gwartheg a’r defaid a’r geifr yn pori ar draws y llethrau eang yn ystod misoedd yr haf. Ond heddiw ychydig o fugeiliaid sy’n treulio’r haf yn eu cabanau, er bod rhai’n dal i wneud caws Gamoneu bob dydd o fis Mai tan fis Medi. Llai o bobol o gwmpas, llai o gŵn gwarchod: mwy o fleiddiaid a mwy o ymosodiadau ar y da byw. Dengys y ffigyrau diwethaf fod nifer y bleiddiaid o fewn y Parc wedi dyblu o fewn y 7 mlynedd diwethaf, a’u bod nhw nawr yn byw mewn chwe grŵp teuluol ac felly mewn chwech ardal.
Dywed y ffermwyr fod llawer yn eu plith wedi rhoi’r gorau i fynd â’u defaid i’r mynyddoedd a dim ond yn symud y gwartheg, am eu bod yn fwy o faint ac yn gallu ymladd yn well pan ddaw ymosodiad. O ddechrau’r flwyddyn hyd ddiwedd mis Tachwedd, lladdwyd 153 o anifeiliaid, gan gynnwys 63 o loi. Mae nifer uchel o loi yn awgrymu bod y ffermwyr yn iawn – mae mwy o wartheg ar gyfartaledd nag a fu.
Ac os na fydd amaeth, nid yn unig ni fydd caws, ond ni fydd lle hwylus iawn i’r ymwelwyr sy’n dod i grwydro’r Picos. Yn lle porfa, eithin a phrysgwydd. Llwybrau wedi diflannu. Yn fwy na dim, colli un o’r brif resymau dros fynd yno, sef gweld sut mae pobl a da wedi llunio tirwedd dros y canrifoedd. Mwy o gyfle i weld blaidd, efallai. Ond llawer mwy o gyfle i weld baedd, achos dyw rheiny ddim yn brin o gwbl nawr. Maen nhw i’w gweld yn ein pentref ni ar lan y môr yn ogystal ag yn y mynyddoedd. Ac wrth fod nifer y bobol yn disgyn, mae’r baedd yn mynd yn eofn. Maen nhw’n gallu pwyso 125kg. Wyt ti wir eisiau cwrdd â hwnnw wrth fynd am dro?
Byddai’n chwithig gweld diwedd traddodiad yr hafod yn sicr, ond tybed a fyddai’r llwybrau yn diflannu mewn gwirionedd? Mae ffarmwrs Cymru’n codi bwganod yn rheolaidd am gynlluniau cadwraeth yn yr ucheldir, yn darogan jyngls o fieri..
Dwi ddim isio siarad ar fy nghyfer oherwydd dwi ddim yn deall holl gymhlethdodau a gwleidyddiaeth y Picos, ond yng Nghymru, dwi’n credu y byddai’r llwybrau poblogaidd yn aros yn agored trwy sathru, a chyfuniad o bori gan (yn dibynnu ar leoliad) geirw, geifr, cwningod, sgwarnogod ac (yn fwy dylanwadol na mae rhywun yn dybio) llygod pencrwn. Efallai y gellid ychwanegu chamois a mouflon i’r rhestr yma yn y Picos?
Diolch am ddarn difyr i wneud i rywun feddwl. Byddai’n ddifyr clywed sut- neu os- daw cytundeb ar ffordd ymlaen!
By: Wilias on Rhagfyr 15, 2013
at 9:15 pm
Yn anffodus mae’n bosib gweld yn barod lle mae llwybrau wedi diflannu: sawl tro rydym ni wedi dilyn trywydd teithiau cerdded mewn llyfrau sydd erbyn hyn eisiau machete i fynd ar eu hyd. Mae’n siwr y byddai’r mannau mwyaf poblogaidd yn aros yn glir. Ond mewn llefydd eraill, mae diffyg pori yn golygu newid mawr. Siarad a gwrando sydd rhaid i’r dair carfan, yn lle dim ond siarad. (Rwyt ti’n iawn, gyda llaw: mae chamois (rebecos) yn y Picos. Ond nid y defaid gwyllt.)
By: cathasturias on Rhagfyr 15, 2013
at 11:47 pm
Ia, mae’n siwr bod tyfiant eich pridd calchog yn ymddwyn yn wahanol iawn i’n tiroedd asid ni..
Nadolig Llawen Cath, a blwyddyn newydd lewyrchus a chynhyrchiol.
By: Wilias on Rhagfyr 24, 2013
at 10:11 am
Diddorol darllen am newidiadau yn amaethyddiaeth y Picos. Pori mynydd yn bwnc llosg! Does dim dwywaith bod gor bori wedi bod ar ucheldir Cymru ond llehau y pori sydd angen neu pori mwy o wartheg a llai o ddefaid. Buan iawn daw y tyfiant yn ei ol os oes dim pori a thagu’r llwybrau. Mae adar fel y fran goesgoch yn bwydo a ffynu ar dir sydd wedi ei bori’n fan. Beth bynnag mae mynyddoedd Cymru wedi ei amaethu ers oes y cerrig.
By: Arwel on Rhagfyr 17, 2013
at 9:00 pm