Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 12, 2014

O’r Gegin: Cegddu at Ddiwrnod Llwyd

Doeddwn i ddim yn wir yn disgwyl y dyn pysgod y bore ‘ma. Mae’r tywydd ar hyd arfordir y Cantabrico wedi bod mor wael taw dim ond ar 4 diwrnod ym mis Ionawr y bu cychod Ribadesella mâs o gwbl. Glaw trwm, ie, ond yn waeth na hynny mae’r gwynt wedi chwythu o’r gogledd neu ogledd-orllewin, sy’n clymu’r cychod bach yn gaeth wrth y cei.

Ond tua 10 o’r gloch fe glywais i sŵn ei gorn. Doedd dim llawer o ddewis gydag e: ychydig o fwyd môr fel cregyn gleision, a physgod fferm fel yr eog. Ond. Roedd un cwch, meddai fe, wedi mentro hwylio o borthladd Lastres y diwrnod cynt ac wedi dal llwyth o gegddu.

Fel arfer byddaf yn paratoi cegddu yn null y Basgiaid gyda digon o olew a phersli, ond heddiw roedd chwant blas gwahanol arna’i i dorri ar y dyddiau llwyd. A dyma fe: cegddu gyda llysiau â chyffyrddiad y dwyrain pell.

I 2 berson. Cegddu wedi ei dorri’n ffiletau, stribedi ar hyd y pysgodyn. Tua 200g yr un.

2/3 sialot neu shibwnsen, 2 ddant garlleg, darn o sinsir tua dwywaith maint y garlleg, deilen llawrwydd, 2 genhinen, 2/3 moronen yn dibynnu ar eu maint, hanner pupuryn coch, 200g tomatos wedi’u rhostio, glased o win gwyn, a llwyaid fawr o gyffaith tomato tsili.

Torri’r llysiau’n fân, a grato’r sinsir. Roedd y tomatos rhost gyda fi yn y rhewgell – rwy’n siŵr y byddai rhai ffres yn gweithio hefyd. Cynhesu llwyaid fach o olew yn dawel yn y ffrimpan, ac ychwanegu’r llysiau yn y drefn uchod. Bydd angen codi’r gwres rywfaint ar gyfer y cennin a’r moron, ac yna ychwanegu’r gwin i lanhau’r gwaelod. Wdyn y tomatos, gadael popeth i gymysgu am ryw 5 munud a gorffen gyda’r cyffaith tsili. Os yn hoff o wres y tsili, newid y pupur coch am un bach twym.

Ffrio’r cegddu yn syml, 3-4 munud bob ochr mewn olew, a gweini gyda bara neu reis.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: