Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 19, 2014

O’r Ardd: Gwanwyn ar y Gorwel

Mae’r cadwyn o stormydd ddaeth dros yr Iwerydd wedi gostegu yma ar arfordir Asturias. Ers ryw wythnos, tywydd gwanwynaidd sydd wedi bod, os nad gwir wanwyn. Dyddiau twym a heulog, nosweithiau clir ac oer gyda’r sêr yn ysblennydd. Orion yw fy ffefryn felly yr amser hon o’r flwyddyn yw’r gorau i edrych ar y sêr.

Fe gadewodd y stormydd, a’r gaeaf cwta mwyn, ddigon o waith yn yr ardd a’r lleuarth. Symud canghennau oedd wedi cwympo – dim coed y tro yma – a chwynnu byth a hefyd. A chlirio’r heol sy’n mynd heibio’r tŷ: fel arfer rwy’n casglu dail y coed Ffrengig oddi yno cyn y nadolig, ond doedd hynny ddim yn bosib eleni, felly cario olion y dail – deilbridd du hyfryd – y bum i heddiw. Ddaw gweithwyr y cyngor ddim ar hyd yr heol fach hon tan yr haf, ychydig cyn fiesta fawr y pentre. Ac eisoes roedd mwsogl a gwair wedi dechrau elwa ar y cynefin newydd yn sgîl y dail. llond whilber, wyth o weithiau! Rwyf i wedi eu cymysgu nhw â’r compost cyffredinol.

ffa llydan

ffa llydan

Mae’r fframwaith o bolion wedi cadw’r ffa llydan yn ddiogel rhag y dymhestl, y blodau’n dechrau agor a hyd yn oed ambell wenynen yn dangos diddordeb. Ond mae’r ail adran, gafodd eu plannu ym mis Rhagfyr, wedi ffaelu – neu mae rhyw lygod wedi bod yn bwyta’r hadau.

Fis arall a byddwn ni yn ei chanol hi gyda’r plannu: nawr yw’r foment i wneud y planiau.


Responses

  1. Mae’r ffa yn edrych yn dda!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: