Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 9, 2014

Gwobr am Waith Caled

Roeddwn i wedi gwneud fy ngwaith cyn i fois Cymru ddechrau arni yn erbyn Lloegr heddiw, ac yn edrych ymlaen at y gêm fel gwobr am hynny. Nid felly y bu.

Roeddwn i wedi treulio cwpwl o oriau yn clirio cefn a phen pella’r garej, lle roedd chwyn, a phlanhigion a dail marw wedi ymgasglu yn niferus dros y gaeaf. Mae’r adeilad yn agos iawn i ochr y graig, ar yr ochr ogleddol, sy’n golygu bod y graig yn lle delfrydol i fwsogl a’r planhigion eraill sydd yn dymuno cartref llaith cysgodol. Hefyd roedd yr iorwg (eiddew) wedi cael lle i wreiddio ac yn bygwth mynd am y to. Gan ei bod ni’n casglu dŵr o do’r garej ar gyfer y lleuarth uchaf roedd angen gael ei wared e mor fuan ag oedd yn bosib, sef heddiw.

Rwy’n gadael y mwsogl i fod, ond yn ceisio tynnu gwair a dant y llew ac yn y blaen o’i amgylch. Ac wrth wneud hynny fe ges i ‘ngwobr:

hepatis nobilis

hepatica nobilis

Ar y glogwyn, hanner ffordd ar hyd yr adeilad, ac yng nghanol y mwsogl: dail yr afu yn ei flodau, ond bod dail yr enghraifft yma bron wedi’u cuddio.

Eisiau mwy o waith arna’i a’r tîm!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: