Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 22, 2014

Llyfr Rysait a Llawer Mwy

Ychydig iawn o bethau dewisais i o dŷ fy mam. Ond yn eu plith, llyfr coginio eithriadol: Maura Laverty’s Cookery Book, a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1946.

Roedd Maura Laverty ei hun yn dipyn o eithriad. Merch i ffermwr o Swydd Kildare, yn 20au’r ganrif ddiwethaf roedd hi’n gofalu am blant llysgennad Romania yn Madrid. Roedd prifddinas Sbaen ar y pryd yn fwrlwm o wahanol fudiadau a syniadau yn ymladd ei ffordd tuag at y rhyfel. Ac o hynny dechreuodd ysgrifennu erthyglau i bapurau Sbeinig, a nofelau (gafodd eu gwahardd yn ei gwlad ei hunan.) Ar ôl dod yn ôl i Iwerddon, aeth hi’n gynhyrchydd ac yn gyflwynydd gydag RTE, a hi ysgrifennodd ‘opera sebon’ cyntaf y darlledwr.

Pan oeddwn yn ferch fach roeddwn i arfer darllen y llyfr fel llyfr, nid fel casgliad o ryseitiau. Mae llais Maura Laverty mor gryf, yn esbonio’r pam yn ogystal â’r sut, ac yn adrodd hanesion bach o’i phlentyndod neu’i bywyd yn Sbaen.

Mae llawer o’r manylion yn darllen fel hanes erbyn hyn: hyd yn oed yng nghefn gwlad, rwy’n amau a yw ‘pob plentyn ysgol yn gwybod sut i goginio cyw’. A diolch byth does dim rhaid bellach ‘archwilio tu fewn i’r aderyn i wneud yn siŵr ei fod wedi’i lanhau yn drwyadl.’ Mae hefyd yn rhoi cyngor llawn ar sut i ddewis aderyn (cyw, hwyaden, neu wydd) drwy edrych i’r llygaid, teimlo’r traed i wneud yn siŵr eu bod yn dal yn ystwyth, ac yn achos yr hwyaden, cydio yn ei big a gwthio asgwrn y fron. Hyd yn oed ym marchandoedd Sbaen, does dim cyfle i wneud hyn nawr.

A phan oedd hi yn Sbaen, fe ddysgodd sut i goginio penfras hallt. Mae’n atgoffa cael y pysgodyn gartref, (roedd hyn cyn dyddiau loris rhewgell, ac roedd yr eglwys Gatholig yn mynnu pysgod ddydd Gwener), ac yn ymosod yn chwyrn ar y saws gwyn fyddai’n cuddio holl flas y penfras. Mae ei rysait am benfras yn null Bilbo yn cynnwys tato a glased o sieri: dyma un imi drio’r  wythnos nesaf.  Os bydd yn dda, wna’i rannu fe.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: