Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 24, 2014

Adolfo Suárez

Heddiw bu’n rhaid i’r cyhoeddiad bod yr awyren MH370 wedi ei cholli yng Nghefnfor y De gymryd yr ail le ar wefannau cyfryngau Sbaen.  Mae pawb yn cofio Adolfo Suárez, fu farw ddoe. Suarez oedd prif weinidog cyntaf y Sbaen ddemocrataidd ar ôl yr unben Franco. Dyn yr adain dde oedd e, yn Gatholig ffyddlon ac yn aelod o Opus Dei. Ond roedd yn deall bod rhaid cael cytgord er mwyn symud tuag at etholiadau, ac yn barod i gymryd rhan flaenllaw yn y trafodaethau, hyd yn oed gydag arweinydd y Comiwnyddion Santiago Carrillo, a fu farw ddeunaw mis yn ôl.

Suárez oedd yn gyfrifol am y gyfundrefn rhanbarthol yng nghyfansoddiad Sbaen sydd wedi parhau hyd heddiw. Nid am ei fod o blaid annibyniaeth i’r Basgiaid na’r Catalanwyr, i’r gwrthwyneb. Roedd e’n meddwl y byddai ei syniad ef o ‘baned i bawb’, h.y. dipyn bach o hunanlywodraeth i bob cymuned, yn ymddangos yn deg. Cawn weld faint o amser bydd hynny’n dal yn wir pan ddaw dyddiad refferendwm Catalwnia yn ddiweddarach eleni.

Roedd Suárez wedi dechrau ei yrfa gwleidyddol y tu fewn i’r ‘Mudiad’, yr unig ‘blaid’ a ganiateid o dan yr unbeniaeth. Fe lwydodd i arwain plaid adain dde yn y llywodraeth gyntaf ac am dipyn ar ôl yr etholiad ym 1979, ond fel prif weinidog doedd e ddim yn llwyddiannus.

Heddiw mae Sbaenwyr yn ei gofio am ei sgiliau a’i onestrwydd fel trafodaethwr, fel trefnydd, yn yr amser pan oedd gwir angen hynny.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: