Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 31, 2014

O’r Ardd: Hen a Newydd

Does dim llawer i’w ddweud am y cae newydd eto – dim ond bod y gwerthiant wedi mynd drwodd yn iawn, a’n bod ni wedi siarad â chymydog sy’n berchen arad. Dywed hwnnw bod  rhaid lladd cyn aradu felly bant â ni i chwilio am y boi sydd fel arfer yn lladd gwair y cae hwn ac yn mynd â’r rholiau mawr plastig du at ei wartheg.

Rhaid  bodloni ar y tir sydd gyda ni a gwneud y pethau arferol; chwynnu, tocio, palu. Ac un peth newydd imi eleni: gwrtaith hylif wedi ei gynyrchu dros y gaeaf o ddail danadl poethion a dŵr y glaw. Mae’n drewi! Ond ers imi rhoi llymaid i’r cwrens duon mae dail wedi ymddangos. Cyd-ddigwyddiad? Na, fy ngwaith i wrth gwrs.

Mae tocion mân y coed ffrwythau  – unrhyw beth sy’n rhy fach i’r tân – yn mynd drwy’r rhwygwr ac yn cael ei ddefnyddio fel gorchudd rhag chwyn/glaw/sychder. Eto, y cwrens duon sydd wedi elwa eleni felly dim ond gobeithio eu bod nhw’n cynhyrchu’n well na llynedd.

Heddiw agorodd y blodau cyntaf ar y coed eirin a’r ceirios gwyllt, a hyd yn oed ambell un ar y gellyg. Fydd y coed afalau sbel eto.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: