Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 11, 2014

O’r Ardd: Llysiau Lliw

Dal i chwynnu fel jobyn bob dydd, ond hefyd erbyn hyn yn cael hoe fach i fynd i gasglu pethau i’r gegin.

IMG_0103

Dechrau o’r cefn: orennau mandarin. Mae’r goeden yn tynnu at ei dengmlwydd yn awr ac yn rhoi cnwd da rhwng Nadolig a’r Pasg.

Brocoli porffor: llawer well gyda fi hwn na’r un glas. Yr unig anfantais yw bod angen blwyddyn yn y pridd, felly dyw e ddim yn un o dyfu os nad oes lot o le gyda chi. Mae planhigion gwanwyn 2015 eisoes yn barod i fynd mâs.

Y ffa llydain cyntaf! Cafodd rhain eu plannu nôl ym mis Hydref, ac onibai am fframwaith i’w cadw rhag y gwynt (maen nhw ar ben y tyle) dydyn nhw ddim wedi cael unrhyw gymorth.

Rwyf i wedi bod yn darllen yn ddiweddar bod bwyta llysiau a ffrwythau o wahanol liwiau yn beth iach. Dylem ni fod yn holliach felly.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: