Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 14, 2014

Caeau

Roedd Bolahaul yn enw cyfarwydd yn ardal fy mebyd. Enw cae, enw fferm, enw ar heol hyd yn oed.  Mae’n golygu lle heulog braf ac roeddwn i wastod yn ei ddychmygu fel rhywun yn gorwedd ar draeth yn danbgos ei bola i’r haul ar ddiwrnod o haf. A dyma ein Bolahaul ni

P1170516

Tynnais i’r llun am 8 o’r gloch y nos, pan roedd yr haul wedi bod yn gwenu ar y cae ers rhyw 12 awr. Mae eisoes wedi ei aredig a’i droi, diolch i gymydog, a’r wythnos hon fe fyddwn yn codi ffens o’i amgylch rhag y baeddiaid gwyllt a’r ceirw, ac yn dechrau plannu. Nid Bolahaul yw ei enw iawn wrth gwrs, dim ond yn fy mhen. El Foro yw e yn ôl yr wdurdodau, ac el Palacio yn ôl y cymdogion, a neb yn siwr o darddiad y naill na’r llall.

Rwyf i’n dilyn cyfres S4C ar enwau caeau Cymru gyda dileit. Ac rwy’n cofio’r cae wnaeth ddeffro’r diddordeb ynof i: Parcyreigras. Na, dim byd i wneud gyda nofelwyr lluosog, ond cae oedd wedi ei hau â rye grass ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

 

 


Ymatebion

  1. Edrych yn dda; cyfnod cyffrous o’ch blaen dwi’n siwr. Digon o le ar gyfer brocoli piws rwan! Maen nhwn bethau drud i’w prynu, ac yn werth rhoi lle iddyn nhw hyd yn oed mewn gardd fechan yn fy marn i..

  2. Dydyn nhw ddim ar werth yma o gwbl. Mae’r un peth yn wir am sialots: yn ddrud i’w prynu, digon hawdd eu tyfu ac yn cadw’r well na wynwns

  3. Ma Bolahaul yn dod ag atgofion yn ôl! Cofio gweld yr enw am y tro cyntaf ar Hewl Bolahaul lawr yn Cwmffrwd, ar ôl symud i Gaerfyrddin pan yn blentyn – a chwerthin mawr wrth gwrs. Oedd ‘na Folahaul arall lan ar bwys ble o’ti’n byw hefyd? Beth bynag – bolahaul yn enw hyfryd ar gae, a chi ‘di symyd yn gyflym iawn – bois bach…. ddim gadael i’r gwair dyfu fel petae!

    • Sori am yr oedi cyn ymateb! Oedd, Bolahaul yn enw fferm ar y ffordd i Abernant. Mae’n Bolahaul ni yn brosiect tymor hir, rhaid cyfaddef. Os dei di draw eleni, gei di bala yn dy law cyn cael cyfle i ishte lawr.


Gadael sylw

Categorïau