Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 21, 2014

Nodyn Byr am Bersawr

Cofnod am dato oedd hi i fod y bore ‘ma, ac efallai y bydd hi heno, ond wrth gerdded mâs drwy’r drws i’r teras fe ges i fy hudo gan bersawr y jasmin. Mae’r blodau yno ers sbel: dwi ddim yn gwybod ai tymheredd y nos sydd wedi cyrraedd rhyw lefelangenrheidiol neu beth, ond bois bach. Maen nhw’n gwynto’n ddigon cryf i hala llewyg ar rai o ferched y nofelau ‘hanesyddol’.

Lan i ben ucha’r ardd wedyn i moyn orennau, ac mae nhwythau wedi agor eu blodau lled y pen. Yn Sbaeneg mae gair neilltuol am bersawr blodau’r oren: azahar, sydd yn dod o’r Arabeg.  Mae’n hawdd dychmygu teyrnaswyr yr hen Andaluz yn eistedd yn eu gerddi, yn sawru’r azahar ac yn clywed sŵn y ffynhonnau.

Nôl i’r gwaith nawr!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: