Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 23, 2014

Gwanwyn Llawn Blodau

Dwi wedi bod yn gweithio heddiw, onest. Wedi clirio deunydd hen domen gompost a’i ddodi lle ‘roedd ei angen – yn un o welyau’r tomatos ac o amgylch y cennin. Wedi troi’r domen nesaf i le’r hen un fel bod gyda ni le i ddechrau un newydd. Mae gyda ni sawl un ymhob ran o’r ardd achos mae’n rhy bell – ac ar ormod o riw – i gario stwff o gwmpas y lle. A nawr bydd rhaid cael rhai yn y llain newydd hefyd.

Ond droeon yn ystod y dydd bu’n rhaid estyn am y camera, nid er mwyn i bobl gael gwerthfawrogi ‘ngwaith i, ond er mwyn dangos harddwch y blodau gwyllt. Dyma’r gwanwyn gorau erioed ers inni fod yma. Y llynedd, gyda’r glaw bob dydd (ddim yn gorddweud – dyna fel oedd hi. Nid drwy’r dydd ond rywbryd bob dydd.) Mae gwynebau heulog yr helianthemum a glas cryf y lithodora yn goleuo’r creigiau. Ac mae troed y golomen, sydd yn Asturias yn ffurf las gyda chanol hufen, nid yn unig wedi bod yn blodeuo ers mis yn barod ond yn dalach nag arfer.

IMG_0074

Gobeithio y bydd yr holl ymdrech yn denu’r gwenyn, achos does dim llawer wedi bod yn ymweld hyd yn hyn. A heddiw wrth gerdded lan i’r ardd uchaf, sylwais i ar y tegeirian cyntaf wedi ymddangos: tegririan coch y gwanwyn, sy’n fwy o biws na choch a bod yn deg.

P1170528

Yn y cefn ar ochr dde’r graig, mae’r wenynog, blodyn hyfryd sy’n dioddef o’r enw Saesneg bastard balm. Yr enw Cymraeg imi, yn enwedig os bydd yn denu mwy o wenyn!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: