Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 3, 2014

O’r Lleuarth: Paratoi

Mae pethau’n tyfu yn y cae newydd! Chwyn a gwair, wrth gwrs, ond hefyd planhigion a blannwyd.

Yn gyntaf fe ddaeth cymydog caredig i aredig (arar yn Sbaeneg: yr hen Rufeiniaid ‘na a’u technoleg newydd). Roedd y gŵr eisoes wedi cerdded lan a lawr y cwbl (60m x 20m) yn lladd y gwair gyda thorrwr lawnt. Gan nad oedd y borfa wedi tyfu mwy na rhyw 10cm ar y pryd, roedd hyn yn bosib.

tir âr

tir âr

Wedyn roedd rhaid gadael y lle am dridiau cyn bod y cymydog a’u dractor yn dychwelyd i droi’r tir o’r newydd.

P1170522

Deuddydd wedyn o godi ffens o amgylch y rhan bellaf, er mwyn cadw mâs yr anifeiliaid. Baeddiaid gwyllt a cheirw yw’r gelynion mawr, ond hefyd y moch daear, sy’n creu difrod helaeth ac yn dwlu ar dato ac India corn.

Ond yn awr mae’r plannu wedi dechrau. Mae’r tir yn dda, er bod rhywun yn cyrraedd y clai ar ôl palu 40cm i lawr. Hanner can mlynedd yn ôl, roedd hi’n gae tato, ac wedyn yn borfa. Yn ddiweddar, gyda’r lleihad y nifer y gwartheg godro, gwair i’w ladd a’i gadw ar gyfer y gaeaf sydd wedi bod yma. Ac yn ôl y cymydog caredig, mae nant danddaear yn gofalu na fydd hi byth yn dioddef llifogydd.

cwrens duon

cwrens duon

Y cwrens duon yw’r planhigion mwyaf hyd yn hyn. Ond mae yno hefyd pupurod, letys, tomatos, asparagws, a thato. Roedd rhaid cael nhw i gyd i fewn achos ein bod ni ar ein ffordd i Gymru i ymweld â’r teulu ac yn ffaelu gadael nhw yn eu potiau bach o flaen y tŷ. Diddorol fydd gweld sut siâp fydd arnyn nhw pan ddown ni nôl.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: