Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 17, 2014

Pesto Persli

Mae persli llynedd wedi dechrau mynd yn goesau hir caled yn barod i flodeuo.

P1170526

Dim byd i’w wneud ond ei dynnu fe, gan adael dau blanhigyn er mwyn cynhyrchu hadau. Gwerth tri phersli sydd yn y colander uchod!

Cymysgu’r cwbl yn y peiriant bwyd gyda garlleg, cnau Ffrengig a chaws dafad, a’i ysgafnhau wedyn gyda chymysgedd o olew olewydd a chnau ffrengig (dim digon o’r olew cnau gyda fi i ddefnyddio hwnna ar ei ben ei hun – ac efallai byddai’r blas wedi bod yn ormod). Twtsiad o halen a

P1170527

dyma faint  o besto ges i! Dim yn hollol wir, mae peth wedi mynd i’r rhewgell, ond daeth dim llawer o’r holl ddail. Mae persli yn gwneud llai na dail brenhinllys, ond mae’r lliw, a’r blas wrth gwrs, yn ddisglair.


Responses

  1. Mae’n syndod cyn lleied o besto sy’n dod o’r holl ddail yna. Edrych yn flasus ac yn iach dros ben.

    • Yn flasus iawn – ac yn rhewi/meirioli’n dda hefyd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: