Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 1, 2014

Y Coed Afalau a Phlanhigion Eraill

IMG_0111

Wyddwn i ddim fod afal Enlli’n oedi gymaint cyn blodeuo. Roeddwn i wir wedi dechrau becso am y goeden fach, oherwydd y golwg crin oedd ar y blagur.  Ond dyma hi nawr yn ei blodau a’i dail, a diolch byth mae un o’r coed seidr yn dal i flodeuo felly mae gobaith y bydd yn cael paill o honno. Mae’r gweddill wedi hen orffen, a ffrwythau bach – llai na maint ceirios – yn glynu’n dynn at y brigau.

Tu ôl i’r goeden mae rhes o dato ar hyd y wal, ac yn y cefndir y cae newydd, Bolahaul. Gwair sy’n tyfu yn y rhan fwyaf o hyd, ond o fewn y ffens mae letys i’w gweld, ac wrth gwrs y cwrens duon. Y peth nesaf fydd plannu’r India corn, a chodi’r polion ar gyfer y ffa. Ac yn y cyfamser – wel, chwynnu! Mae digon o chwyn i roi swydd llawn amser i rywun, o leiaf 8 mis y flwyddyn.

A cheisio peidio bod yn rhy diamynedd: mae popeth ar fin dod, ond heb fod yn barod eto. Wedi dweud hynny cawsom ni’r pryd o dato newydd cyntaf neithiwr (tato Winston) ac roedden nhw’n hyfryd. A nawr rwy’n eistedd ar y teras yn gwrando ar gôr yr hwyr: crics, lleisiau pererinion ar un o hen ffyrdd Santiago de Compostela, mwyalchen a chlychau’r gwartheg.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: