Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 9, 2014

Y Rhod yn Troi

Weithiau, efallai, bydd barn y bobl yn gorfodi´r cyfryngau i newid eu sbin ar straeon gwleidyddol. Nos Sadwrn ymddangosodd erthygl ar flaen tudalen El País oedd yn honni, yn ei bennawd ac yn y frawddeg agoriadol, bod ‘mwyafrif o Sbaenwyr o blaid y brenin nesaf, Felipe’. O ddarllen ymhellach, roedd hyn yn ffrwyth arolwg barn a wnaed ar gyfer y papur. Doedd hi ddim yn arolwg eang iawn, 1000 o bobol, ond y rheiny wediú dewis er mwyn ceisio cynnwys barn Sbaen i gyd. (!)

Ond imi, ac i sawl un ar y rhwydweithiau cymdeithasol y noson honno, prif  ganfyddiad yr arolwg oedd bod 62% – bron i ddwy ran o dair – yn dymuno gweld refferendwm ar y cwestiwn o frenhiniaeth neu weriniaeth. Nid eu bod nhw´n cefnogi refferendwm ar unwaith, fel y mae´r ymgyrchwyr yn ceisio, ond eu bod yn cytuno y dylid cael un. Dyma´r bennawd, ond dyw e?

49% oedd yn dewis Felipe de Borbón , 36% yn dewis gweriniaeth yn awr. Dros draean!

Erbyn ddoe roedd El Paìs wedi newid ei ongl. Roeddwn i´n methu cael hyd i´r erthygl gwreiddiol ar y wefan. Ond dyma hi ar wefan El Plural, papur rywfaint i´r chwith o El País.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: