Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 22, 2014

O’r Ardd: Mefus Newydd

Wps mae’r amser wedi llithro heibio heb imi ysgrifennu dim am ddatblygiad y lleuarth yn y cae newydd. Y gwir amdani yw bod y tywydd wedi bod cystal – yn heulog dwym – ein bod wedi gweithio oriau hirion ac os nad yn gweithio buom ni’n nofio neu’n cerdded neu’n bwyta cinio gyda chyfeillion. (Congren y penwythnos diwethaf – creadur sydd hefyd yn cael ei alw’n llysywen fôr ac a oedd yn yr achos yma yn 2m o hyd. Ond roedd tuag 20 ohonom ni felly doedd dim lot ar ôl.)

Beth sy’n digwydd te? Rydym ni eisoes yn bwyta sawl math o letys, tato Ratte a Record a Winston, corbwmpenni (hir a chrwn) sy’n dod bob dydd fel ein bod ni’n gorfod rhoi’r rhan fwyaf yn anrhegion, ac yn olaf, y mefus.

P1170567

Yn dechnegol dyw’r mefus ddim yn y cae newydd. Ond maen nhw wedi cymryd gwely’r tomatos sydd wedi symud draw yno er mwyn eu cadw rhag y blight. Y gobaith yw y bydd y creigiau i’r gogledd yn eu cysgodi rhag gwynt y môr. Math newydd yw’r mefus, Malwina, gafodd ei ddatblygu yn yr Almaen. Dywed y disgrifiad eu bod yn dod yn hwyr, ond rydym ni’n bwyta nhw’n barod. Ac maen nhw’n hyfryd. Maint canolig, lliw sgarlad, a blas cyfoethog. Oddi tanyn nhw, gwellt. Roeddem ni wedi rhedeg mâs o’r deunydd gwrth-chwyn yna sy’n ymddifrodi ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn ffaelu cael hyd i dim mwy. Ond roedd gwair y cae newydd ei ladd, felly gwellt amdani. A CDs rhag yr adar!

 


Responses

  1. Diolch eto Cath am eich blog! Bydda i’n ymwelydd mwy cyson o hyn ymlaen gan fy mod wedi symud i’r Penrhyn! Ac mae wastad mwy i’w ddysgu am y lluarth!

    Byddwch wych!
    Patrick

    • Croeso Patrick! Yn lle wyt ti’n byw nawr te? (Byddi di’n sylwi fy mod i wedi mabwysiadu arfer y Sbaenwyr o alw ‘ti’ ar bobl yn syth onibai eu bod nhw dros eu 80 neu’n blismyn).

  2. Hola Cath, em sembla perfecte allò que dius, d’acord! Rwy’n byw bellach yn y carped gwyrdd gwinyddol yr hyn yw Vilafranca del Penedès (ar hyn o bryd ta beth!). Yn ystod misoedd yr haf, fe’m siarsiwyd y byddai gwres llaith o’r enw ‘xafagor’ yn teyrnasu … roedddyn nhw’n llygaid eu lle!! Sai’n conan, wrth gwrs!

    • Dwyt ti ddim yn bell o winllan un o’m hoff winoedd gwyn! Yn agos i Lleida, yn y DO Costers del Segre, mae Auzells. Cyfuniad o nifer o wahanol fathau o rawnwin ac yn flas arbennig iawn.

  3. Diolch yn fawr Cath am roi gwybod am y gwin, fe gofia i amdano! Gobeithio bod y gongren wedi plesio pawb, gyda llaw!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: