Roedd llai o chwyn na’r disgwyl pan ddaethom ni nôl. Diolch i’r tywydd sych am hynny. Ond un peth yr ydym ni wedi sylweddoli gan fod maint y tir wedi cynyddu gymaint yw bod angen cerdded o gwmpas bob rhan ohono o leiaf bob yn eilddydd er mwyn dal y chwyn bach cyn bod nhw’n blodeuo.
Mae’r ffa dringo, rhai yn fabes mawr gwyn, eraill yn verdinas bach gwyrdd, wedi dechrau’r daith hir i dop y polion, a’r rhes gyntaf o dato yn barod i’w chodi. Tu ôl i’r rheiny, mae ffrwyth y tomatos wedi ymddangos, ond yn dal yn fach, ac mae’r letys cyntaf i gyd wedi cael eu bwyta. Dwrhau fydd y broblem os cawn ni ysbeidiau hir o sychder, felly mae sustem ychwanegol o gasglu dŵr o’r to ar y gweill. Ei gasglu, ac yna sut i symud y dŵr ar draws yr heol i lle mae eiaisu.
Ac yn yr hen luarth, mae’r cwrens duon, y garlleg a’r cyntaf o’r wynwns wedi eu casglu, a’r corbwmpenni bron â darfod. (Mae eraill yn aros i gael eu plannu yn eu lle nhw.)
Mae’n corbwmpen cyntaf ni dal ychydig ddyddiau’n brin o fod yn barod i’w hel (!), er bod eraill ymhellach i’r de, wedi bod yn brolio tymor dda iawn hyd yma..
Peth mawr ‘di cenfigen de.
By: Wilias on Gorffennaf 7, 2014
at 11:31 am
Byddi di’n falch o glywed felly fod y tomatos yn dechrau troi lliw!
By: cathasturias on Gorffennaf 9, 2014
at 8:05 pm
Roeddwn yn meddwl amdanoch pwy ddiwrnod Cath pan ddaeth y glaw mawr, neu o leia dyna roedd y fenyw ar y tele-bocs yn ei bwyntio mas!
By: Patrick on Gorffennaf 9, 2014
at 4:52 pm
Do, cawsom ni ddiwrnod a noswaith o law trwm – jyst y peth. Ar y galchfaen yr ydym ni fan hyn, felly mae’r dŵr yn suddo trwodd yn glou iawn. Rhy glou weithiau.
By: cathasturias on Gorffennaf 9, 2014
at 8:07 pm