Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 13, 2014

O’r Lluarth: Ffrwyth a Phethau Eraill

Nodyn bach cyn inni fynd lan i’r bar i gefnogi’r Ariannin!

Mae rhai o’r cwrens duon yn y cae newydd, a brynwyd yn gynharach eleni yn flwydd oed, wedi dwyn ffrwyth. Siŵr nad ydyn nhw ddim i fod i wneud hynny, ond mae’r cynnyrch bach wedi mynd at gwrens yr hen lwyni i weithio cyffaith, hufen iâ ac ambell i darten. Yr unig anfantais yw eu glanhau nhw, ac i wneud cyffaith jeli sdim eisiau gwneud hynny’n drylwyr iawn achos bydd y rhidyll yn gwneud y gwaith.

IMG_0150

Mae’r tomatos o dan y graig yn mhen draw’r cae yn edrych yn dda, ac ar wahan i un ffrwyth wedi llwyddo i ddianc rhag y llwydni. Quema yw’r gair lleol, sy’n golygu llosgi. Ond yr un peth yw e: y planhigion eu hunain, tato yn ogystal â thomato, yn mynd yn ddu a’r ffrwyth yn ddu ac yn feddal. Ddylwn ni fod fwy neu lai mâs o gyfnod gwaetha’r llwydni nawr.

A phan oeddwn i yn yr hen luarth y prynhawn yma, yn glanhau gwely’r mefus, sylweddolais i fod nifer eitha da o orennau’n dal i fod ar y coed mandarin: y ffrwyth yn ddwfn yng nghanol y coed ac felly heb eu sychu gan yr haul. Sudd cartref i frecwast yfory, ta pwy fydd yn ennill.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: