Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 16, 2014

Hoff Win yr Haf

Daw hirddydd haf â chwant gwin pinc, rosé, rosado, neu clarete.

Mae’r ddau enw olaf yn cael eu defnyddio yn Sbaen i ddynodi gwin o bob lliw pinc, o’r ceirios dyfnaf i’r awgrym lleiaf mewn gwin golau. A rhaid cyfaddef eu bod nhw’n cael eu defnyddio yn gyfystyron. Ac i’r sawl sydd yn eu hyfed o dan heulwen Asturias, mae hyn yn ddigon teg. Ni ellir dweud wrth y lliw, y gwedd, na hyd yn oed y blas, taw rosado sydd mewn un gwydr a clarete yn y llall. Ond inni gîcs y gwin, mae’n bwysig gwybod eu bod yn cael eu cynhyrchu mewn modd gwahanol.

Mae gwin rosado yn dod un ai o rawnwin coch yn unig, neu o gymysgedd (cyfnewidiol!) o’r coch a’r gwyn. Ond yr hyn sy’n nodweddiadol yw taw’r sudd yn unig a eplesir, heb y crwyn.  Mae’r lliw terfynol yn cael eu greu naill ai wrth wasgu’r grawnwin coch yn ysgafn ac yn fyr, neu pan fydd y ddau sudd yn cael eu cymysgu cyn eplesu.

Mae clarete, ar y llaw arall, wastod yn cael ei gynhyrchu o gymysgedd grawnwin coch a gwyn. Mae’r rhai coch yn cael eu gwasgu ac yna eu heplesu gyda’r crwyn, a sudd y gwynion wedi cael ei ychwanegu. Eto, bydd y lliw  terfynol yn dibynnu ar faint o’r cochion sy’n cael eu defnyddio a faint o’r gwynion.  Bydd hwn hefyd yn effeithio ar fframwaith, tryleuder a blas dy lasaid bach wrth y traeth.

Ces i’r wybodaeth uchod i gyd gan flog Vino de Rioja lle ymddangosodd erthygl gan yr arbenigwr Pepe Hidalgo. Ei fyrdwn oedd diflaniad nifer o’r claretes, yn enwedig rhai la Rioja, oherwydd y ffasiwn sydd am winoedd blush. Bai’r Americanwyr yw hyn, yn mynnu gwinoedd gyda llai o liw a mwy o siwgr.

O blith rosados Sbaen byddwn yn awgrymu rhai Valdepeñas, neu rhai Navarra, ond imi beth sy’n bwysig yw bod cymaint o winoedd gwir wahanol ag sy’n bosib yn cael eu cynhyrchu, a’u mwynhau, yn lle’n bod ni gyd yn yfed yr un oeth.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: