Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 26, 2014

Mae’r Lluarth yn Sych

Mae’r lluarth yn sych, a phobman arall hefyd. Dim mwy na phedwar diferyn, ys dywedan nhw fan hyn ‘cuatro gotas’, ers bron i dair wythnos. Anarferol iawn i Asturias, hyd yn oed yng nghanol haf.

Gyda’r sychder, daw’r morgrug yn eu miloedd. Bob tro rwy’n clirio chwyn neu iorwg dyna nhw’n rhedeg am eu bywydau. Ac yn y lluarth ei hun mae’n waeth, oherwydd gyda nhw daw’r clêr duon. Yn llythrennol: mae’r morgrug yn cario’r clêr duon i blanhigion newydd, lle maen nhw’n bwyta o’r dail ffres ifanc. Mae’r morgrug wedyn yn ‘godro’r’ clêr duon ac yn cael hylif melys ohonyn nhw.

IMG_0159 - Version 2

Mae’r ffa Ffrengig yma’n amlwg wedi’i chael hi, ond y canol fe welir y da sy’n dod i fwyta’r drwg: buwch fach gota. Mae ‘na fwy ohonyn nhw eleni nag a welais i mewn blynyddoedd – ond dal dim digon i ddelio â’r holl glêr duon. Efallai bydd angen inni brynu poblogaeth o fuchod bach cwta oddi ar y we erbyn y flwyddyn nesaf.


Responses

  1. Dim dwr wedi bod ar randiroedd Bro Ffestiniog ers dydd Mawrth.. pawb yn gorfod cario dwr yno eto. Lle mae glaw Stiniog pan ti isio fo?!
    Morgrug yn amlwg iawn yma eleni: a’r cler yn eu sgil hefyd, rwan dy fod wedi tynnu sylw at y peth. Doeddwn i heb gysylltu’r ddau beth o’r blaen; difyr tu hwnt.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: