Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 20, 2014

Ffrwyth y Ddaear

Rydym ni ar ddechrau’r tymor pan fyddaf yn treulio mwy o amser yn y gegin nag yn y lluarth. Weithiau mae fel petai bob tro rwy’n agor drws y teras mae rhyw lysieuyn neu ffrwyth newydd ar y ford.

Cap Tyllog

Cap Tyllog

Ond roedd hyn yn rhywbeth arbennig. Mae cyfaill inni’n ennill ei damaid wrth chwilio am fadarch a’u gwerthu nhw i fwytai. Ond y noson honno roedd perchennog un bwyty wedi eu gwrthod, ar ôl dweud ei fod yn fodlon prynu ‘popeth a gei di’. O gefn y car, felly, gwerthwyd y boletus edulis uchod, a hefyd basgeded ddechau o fadarch siantrel, y rhai bach orennog sy’n troi’n siapau rhyfedd wrth heneiddio. Risotto wnes i, a wedyn sychu’r gweddill yn y peiriant bach trydan at y gaeaf.

P1170743

Mae tomatos wedi bod yn dod i mewn ers dechrau Gorffennaf: cilo cyfan o domatos ceirios sydd yma ar eu ffordd i’r ffwrn, gydag olew olewydd, rhosmari a theim. O’r blaen byddwn yn eu torri yn eu hanner fel y tomatos mawr, ond erbyn hyn rwyf i dim ond yn gwneud hollt fach mewn un pen. 150C am ryw hanner awr, naill ai i’w bwyta’n dwym neu i’w rhewi.

P1170741

A dyma nhw’r orennau olaf! Wedi mynd yn sudd erbyn hyn, a nawr bydd rhaid prynu yn y farchnad tan Nadolig o leiaf. A chyn hynny fe fydd rhaid prosesu’r ffa mawr, a’r cnau Ffrengig, a’r pwmpenni o sawl math. Ar adeg fel hyn mae holl waith y gwanwyn a’r haf cynnar yn ymddangos yn fach iawn o’i gymharu a’r pleser o fwyta pethau iach a blasus.

 


Responses

  1. Mae’r cynnyrch acw yn tynnu dwr i ddannedd! Mwynhau dilyn hynt y garddio a’r cynaeafu a chael cip ar fywyd yn Asturias.

    • Diolch Dyfrig. Mae rhai o arferion yr ardal hon yn fy atgoffa o fy mhlentyndod yng nghefn gwlad, ond eraill (e.e. y madarch) yn hollol ddieithr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: