Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 19, 2014

O’r Gegin: Sorbe Mari Waedlyd

Dyma gofnod i’r sawl sydd wedi cael llond bol – am heddiw, beth bynnag – o ddarllen am refferendwm yr Alban a’i ganlyniadau posib.

Mae’r tomatos yn cyrraedd y gegin o’r cae newydd fesul kilo, bob dydd. A minnau wedyn yn ceisio meddwl am bethau newydd i wneud gyda nhw. Edrych o dan ‘tomates’ yn Larousse a dyna lle’r oedd e: sorbe. Syniad da ond doedd y rysait ddim yn aprlio, felly arôl awr neu ddwy o chwilota es i nôl at y llyfryn ddaeth gyda’r peiriant hufen iâ flynyddoedd yn ôl, a dyna beth yw’r rysait yma.

 

Roedd angen 600g o passata – tomatos wedi malu’n fân, heb groen na hadau. Dipyn o waith, ac fe gymerodd 1kg o ffrwyth i gyrraedd 600g.

Ychwanegu sudd 1 lemwn mawr a’i groen wedi’i ratio, diferion o tabasco a saws Caerwrangon, llond llwy ford o siwgir gwyn, halen a phupur, gwynwy, a 100ml o fodca – ie, sorbe Mari Waedlyd!

Popeth yn yr hylifydd, wedyn i’r oergell am 20 munud, wedyn i’r peiriant hufen iâ am 20 munud arall.

A dyma fe:

Sorbe Mari Waedlyd

Sorbe Mari Waedlyd

(Mae hefyd yn ateb y cwestiwn: beth yw pwrpas y Paris goblet?)

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: