Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 9, 2014

Tagu ar Fraster Llygredd

Bron bob tro y bydd rhywun yn edrych ar y newyddion yn Sbaen, mae achos newydd o lygredd wedi codi. A’r hyn sy’n ein siglo ni eleni yw y bobl sydd wedi bod yn derbyn arian cyfrinachol ac yn ei gelu mewn gwledydd tramor. Nid y PP adain-dde arferol a’u cyfeillion busnes, ond rhai o’r rheiny oedd i ryw radd yn mynegi neu’n cynrychioli gwerthoedd sy’n agosach at ein calonnau ni.

Yn gyntaf, Jordi Pujol. Gwynfor Evans Catalwnia, os liciwch chi. (Petai Gwynfor Evans wedi gweld tyfu cenedlaetholdeb yng Nghymru mewn pryd iddo fod yn brif weinidog ar ei genedl am 23 o flynyddoedd.) Gŵr a ddechreuodd yn ei arddegau drwy ddysgu Catalaneg o lyfr. Ar y pryd roedd gwaharddiad llwm ar yr iaith gan unbeniaeth Franco. Wedyn cymerodd ran mewn gwrthdystiadau yn erbyn Franco, a chael ei garcharu am hynny. Roedd yn rhan o senedd Catalwnia ers y dechrau.

Ac eto, dri mis yn ôl. bu’n rhaid iddo gyfaddef, ar ôl i rai o’r manylion ymddangos yn y cyfryngau, ei fod e wedi cuddio dros €4 miliwn mewn banc yn Andorra, gwladwriaeth fach ond yn annibynnol o Sbaen. Mae lle i gredu bod ei fab, o’r un enw, hefyd wedi ei gyfoethogi ar gefn grym gwleidyddol ei dad. Mae barnwr eisoes yn paratoi erlyniad, ond aros fydd rhaid am y cyhuddiadau.

Yno, yr wythnos hon, enw na fydd yn golygu dim i’r rhan fwyaf o Gymry: Jose Angel Fernández Villa. Ond byddwch chi efallai yn cofio lluniau teledu o lowyr Asturias yn llosgi teiars ar draffyrdd neu’n gorymdeithio ‘r holl ffordd i Madrid . Fe oedd Llywydd undeb glowyr Asturias tan y llynedd. Yn awr yn wynebu cyhuddiad o guddio dros filiwn o ewros. O ble daeth yr arian? Sdim neb wedi dweud eto. Roedd SOMA, undeb Villa, yn rhan o’r UGT, y corff undebol sosialaidd, ac ef ei hun wedi bod yn aelod sosialaidd ac yn senadur yn senedd Asturias. Erbyn heddiw mae wedi ei wahardd gan yr undeb a’r blaid. Fel Pujol, roedd Villa yn uchel ei barch yn ei gymuned, ac mae pobl wir wedi cael sioc wrth glywed y newyddion.

Roeddem ni’n disgwyl gwell ganddyn nhw, ac o’r herwydd wedi ein siomi’n waeth.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: