Daeth haf bach Mihangel â salwch yn ei sgîl. Rydym ni wedi hen arfer a cheisio diogelu’r tomatos (a’r tato) rhag y llwydni sy’n dod ym mis Mehefin ac yn gynnar ym mis Gorffennaf pan fydd y dymheredd yn uchel a’r aer yn llawn gwlypdra. Eleni, yn y cae newydd a gan dywydd sych, os nad bob amser yn heulog, fe gawsom ni gnwd da. Mae’r rhewgell yn llawn tomatos rhost a saws.
Gan bod ni’n mynd bant am ychydig wythnosau, rhaid oedd penderfynu casglu’r ffrwyth i gyd neu adael i’r tomatos i dyfu a gobeithio y byddai rhywrai ar ôl erbyn mis Tachwedd.
O bell, roedd popeth yn edrych yn iwn. Ond och ac onibai, pan gyrhaeddom ni’r planhigion, roedd y coch yn cuddio staen du, a’r dail hefyd yn grin a brown.
Wedi llwydo, neu wedi llosgi ys dywed y cymdogion yma yn nwyrain Asturias. Dim dewis felly. Roedd rhaid inni casglu pob ffrwyth difrycheulyd (dwli ar y gair!) , tynnu gweddill y planhigion a’u llosgi ar unwaith.
Rwy’n deall nawr bod dau fath o lwydni, neu falltod: un yn gynnar a’r llall yn hwyr. Mwy o waith eto’r flwyddyn nesaf. Ond wedi darllen y prynhawn yma ei bod yn bosib defnyddio cymysgedd o soda pobi, sebon a dŵr a’i chwistrellu dros y planhigion tomatos unwaith yr wythnos rhag y pla. Oes unrhyw un wedi cael hwyl ar hynny?
Cathi hwyl i chdi yn yr Arianyn!
By: Arwel on Hydref 14, 2014
at 6:58 pm
Diolch – bron yn barod i adael y tŷ
By: cathasturias on Hydref 18, 2014
at 2:10 pm
Rydym ni’n defnyddio “Cymysgedd BordÔ”.ar ein tatws a’n tomatos. Mae’n helpu…
By: Dave Sullivan on Hydref 16, 2014
at 9:20 am
Diolch Dave. Sdim angen y calch fan hyn ond byddwn ni yn defnyddio copor. Wastod yn chwilio am rywbeth gwell!
By: cathasturias on Hydref 16, 2014
at 12:52 pm