Dechrau’r daith, tipyn i’r de o Borth Madryn lle glaniodd y Cymry cyntaf yn y Mimosa ym mis Gorffennaf 1865. Penderfynu yn erbyn Penrhyn Valdez, canolfan twristiaeth bywyd gwyllt yr ardal, a cheisio rhywbeth gwahanol.
Mae’r traeth eang hwn ar fôr Iwerydd yn edrych fel lleoliad un o raglenni dogfen David Attenborough – ac roedd y trigolion yn haeddu’r un parch. Eliffantod môr sy’n byw yma – o leiaf rhwng mis Medi a mis Rhagfyr, pan fyddant yn cenhedlu ac yn magu’r cenawon. Wedyn, yn ôl i’r môr â nhw.
Ryw dair wythnos oed yw’r babi tywyll hwn, ac eisoes yn paratoi ar gyfer mynd i chwilio am ei fwyd ei hunan. Maen nhw’n pwyso 35-40kg ddiwrnod eu geni, ac efallai deirgwaith hynny fis yn ddiweddarach. Bydd y fam, ar y llaw arall, sydd wedi gwneud dim am fis ond bwydo’r bychan a’i ddiogelu rhag y tad a gwrywod eraill y traeth, wedi colli 120kg erbyn y bydd hi’n plymio’n ddiolchgar i’r tonnau.
Aethom ni ddim yn rhy agos, rhag codi ofn arnyn nhw na’u digio. Ond dim ond edrych i’n cyfeiriad wnaeth yr anifeiliad enfawr. Dim ond y 4 ohonom oedd yno, gyda Guido, y bachan sy bia’r fferm rhwng y môr a’r heol. Fe oedd wedi mynd â ni ar draws ei dir (y clwydi i gyd wedi’u cloi) fel rhan o’r profiad o aros yn ei estancia, La Antonieta . Does dim wifi yno, fydd dy ffôn symudol ddim yn gweithio, ac mae’r dŵr yn dod o’r glaw neu (yn ddrewllyd) o ffynnon. Dyw aros mewn estancia ddim yn rhad, ond mae’n dod â ti’n agos iawn i’r hen ffordd o fyw.
Ar ôl gadael yr eliffantod môr, dro arall i draeth arall, er mwyn gweld adar. Ond beth oedd yno oedd y brenin bengwin unig hwn, a golwg ddim rhy dda arno. Doeddem ni ddim yn rhy siŵr o ba deip o bengwin oedd e, a Guido erioed wedi gweld un tebyg ar ei dir.
Cyngor bach hanfodol a gawsom gan Guido ar gyfer y diwrnod wedyn, pan fyddem ni’n ei throi hi am Punta Tombo a’r pengwiniaid Magellanig: codwch yn gynnar er mwyn cyrraedd yna cyn 9 o’r gloch y bore, a cherwch yn syth at y lle nythu, gellwch chi fynd i’r ganolfan esbonio wedyn. Bu tipyn o gwyno am y codi cynnar, ond roeddem ni yno cyn 9. Ni, a chriw teledu o Siapan, a’r cannoedd o filoedd o bengwiniaid.
Roedd y pengwiniaid ar eu hôl hi o’u cymharu â’r eliffantod môr: dim cywion eto, dim ond nythu ac ambell i bâr o wyau i’w gweld. Mae pob pâr yn aros gyda’i gilydd flwyddyn ar ôl ei gilydd: y gwryw sy’n cyrraedd yn gyntaf ac yn mynd yn ôl i’r un nyth, ac yn ei baratoi ar gyfer y fenyw.
Mae’r pengwiniaid yma dim ond yn cyrraedd 75cm o daldra, ac yn edrych yn ddigon gomig yn cerdded o gwmpas, ond unwaith yn y dŵr maent yn haeddu’r disgrifiad ‘gosgeiddig’. Ac roedd Guido’n hollol gywir: erbyn 1100 wrth inni gerdded yn ôl tua’r maes parcio, roedd lluoedd o bensiynwyr a phlant ysgol yn heidio tuag atom ni. Tri bws a hanner dwsin o fysus mini wedi cyrraedd. Fyddai’u profiad ddim wedi bod yn debyg i beth gawsom ni, o dan haul y gwanwyn, yng ngoleuni cryf glan môr y De a heb sŵn ond cloncian (cyfarth?) rhyfedd y pengwiniaid a thrydar tlysach adar y llwyni.
Gadael Ymateb