Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 17, 2014

Patagonia 04: Bwyd

Un peth mae pawb yn gwybod am yr Ariannin, a Phatagonia fel rhan o’r wlad honno, yw eu bod yn bwyta lot o gig. Lot o stêc, i fod yn fanwl gywir. A rhaid imi ddweud bod hyn yn hollol wir, cyhyd ag y mae tai bwyta yn y cwestiwn. Mae pobl yn dal i gynnal y lluarth, a’r marchnadoedd yn llawn llysiau, ond fel teithwyr roedd yn anodd dod ar draws unrhyw beth ar wahan i salad ac omlet os nad oeddem ni am fwyta cig.  Dim pysgod chwaith onibai am yn y rhan honno o Batagonia sy’n perthyn i Chile.

(Nodyn ar ymyl y ddalen: yn y Dyffryn, o gwmpas Gaiman a Dolavon, mae mewnfudwyr o Bolifia yn dechrau tyfu llysiau yn y chacras (darnau o dir) fu gynt yn cael eu gweithio gan Gymry. Mae ganddyn nhw enw da drwy’r Ariannin am fod yn arddwyr ardderchog.)

Nôl at y bwyd: os bwyta mewn llefydd rhad, beth fydd ar gael fydd pizza, empanada (pastai) a milanesa (darn tenau iawn o gig wedi ei ffrio mewn cwrlid o wy a briwsion). Cystal gofyn gweld yr empanada, oherwydd weithiau maen nhw’n fach iawn a weithiau eraill yn ddigon i bryd. Yn Gaiman, y lle rhad gorau fuom ni oedd Antu yn Stryd Belgrano – yn cynnig y pethau hyn i gyd, yn gwneud salad da a gyda lle i eistedd tu fâs.  Yn Esquel mae sawl un, ond roeddem ni’n hoffi La Gallega, Avenida Alvear, gyferbyn â’r swyddfa dwristiaeth. Mae gyda nhw restr helaeth o empanadas gan gynnwys cig, cyw, ham a chaws.

Nawr at y llefydd drutach – ond ‘sdim byd yn ddrud iawn. $Arg1000 (tua £75) oedd y pris i bedwar ar gyfartaledd yn cynnwys prif gwrs, salad, ambell i bwdin a gwin. Yn Gaiman. byddwn i’n mynd yn syth at Gwalia Lân yng nghanol y pentref ar Stryd Eugenio Tello. Mae’r cig yn dda iawn, pasta ffres ar gael hefyd a’r gwasanaeth yn dda iawn ac yn rhannol Gymraeg eu hiaith.  Yn Esquel, eto mae un yn sefyll mâs: La Barra ar Stryd Sarmiento. Yma hefyd daw Alan i weini yn siarad Cymraeg, ac mae ddewis o stecen neu gig oen lleol wedi’i wneud ar y tân. Gormod i un person weden i ond yn flasus tu hwnt.

Yn Chile cewch chi bysgod! Yn fwy na dim, eog, sy’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd yn y fjords. Maen nhw wedi cael trafferthion mawr gyda salwch yn y pysgod, ond roedd y bobol y bues i’n siarad â nhw yn dweud bod pethau’n well yn awr: llai o bysgod, dim ffermydd newydd, mwy o archwilwyr. Ymysg y tai bwyta gorau – a rhataf! – yno roedd caban o’r enw Casona del Bosque, ar gyrion deheuol Villa Manihuales, pentref bach ar y Carretera Austral rhwng Cohaique a Chaiten.

Go brin y bydd neb yn ymweld â’r Wladfa heb dreulio diwrnod neu ddau yn Buenos Aires. Yn ardal Palermo buom ni’n aros, lle mae dwsinau o dai bwyta, eto bron i gyd yn stêc/pasta/salad. Parrilla Don Julio (cornel Guatemala a Gurrachaga) yw’r henwr. Bydd rhaid cadw bord ymlaen llaw os nad ydych fodlon bwyta’n gynharach na’r porteños (trigolion y ddinas). Ond o leiaf maen nhw’n dod â gwydriad bach o siampaen i’r bobl sy’n aros am ford. Mae gan Los Octubres (Costa Rica y Thames) deras ar y trydydd llawr ac mae’r bwyd yn dda hefyd. Mae’r ffordd lan yn mynd heibio siop lyfrau sy’n deyrnged i Juan ac Evita Peron ond yn cynnwys llawer o lyfrau gwleidyddol eraill hefyd. Ac yn drydydd ac efallai’r gorau o’r tri, Lo de Jesús – mae’r enw yn cyfeirio ac y dyn fu’n cadw’r lle am flynyddoedd. Mae’r stêc gyda saws gwin Malbec yn rhywbeth y byddaf yn cofio yn hir.  Buenos Aires dipyn yn ddrutach na Patagonia, ond nid o’i gymharu â phrifddinasoedd Ewrop.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: