Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 21, 2014

Patagonia 05: yr hen Goedwig

Y Paith. Gair Cymru’r Wladfa am i diffeithwch y tu fâs i’w tir âr yn Nyffryn Chubut. O deithio drwyddo heddiw yn gerrig sychion a llwyni bach pigog, ni fyddai neb yn meddwl bod hyn unwaith yn arfordir, rhannau ohono o dan y môr am filiynau o flynyddoedd. Na chwaith bod afonydd anferth yn llifo o gyfeiriad lle mae mynyddoedd yr Andes heddiw ac yn cario coed cyfan ar ei hyd ar ôl stormydd mawr. Bu coedwigoedd yma!

IMG_0311

Llai nag 20 mlynedd yn ôl y darganfuwyd Bosque Petrificado Florentino Ameghino. Coedwig garregedig? Byddwn yn falch o gael gwybod am air arall. Mae e nawr yn ardal o dan fesurau diogelwch arbennig, a’r archaeolegwyr yn gweithio ar rannau bach ohono – pwy ar ŵyr beth arall sydd yma? Yng nghefn meddwl yr awdurdodau, y ffaith bod gweddillion llysieuol helaeth o’r oedran yma (60 miliwn o flynyddoedd yn ôl) yn gallu golygu llefydd newydd i ddrilio am olew. Ond ar hyn o bryd, tro’r gwyddonwyr yw hi.

IMG_0310

 

Dim ond ychydig o’r coed sydd i’w gweld yn ystod y 2km o gerdded hawdd. Mae’r rhan fwyaf wedi eu claddu eto gan dywod y paith, weithiau gan effaith natur, weithiau yn briodol er mwyn eu diogelu. Roedd y rhain yn goed mawr, 15-20m o daldra, ac yn perthyn i deuluoedd sy’n adnabyddus heddiw fel y Lauraceae a’r Fagaceae. Ond wrth gwrs roedden nhw’n edrych yn wahanol iawn. Boncyff hir syth, meddai’r tywysydd Jorge, a changhennau mewn un coron ar ei ben, yn debyg i balmwydd heddiw er nad ydynt yn perthyn o gwbl.

A sut ydyn nhw’n gwybod taw môr fu yma? Tystiolaeth ffosil. Nid yn unig y coed, mae hefyd olion creaduriaid morol bychain, a hyd yn oed tywod y traeth ei hunan wedi ei garegu:

IMG_0315

Mae’r siapau ar y graig yn siapau wedi ei wneud gan donnau’r môr, môr tawel bas, 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl, ac wedi troi’n garreg gan bwysau’r dail, cerrig ac ati a’u gorchuddiodd, a’r garreg ei hun, ymhell ar ôl hynny, wedi ei thorri’n ddarnau gan symudiad daearegol.

Rhaid cysylltu er mwyn ymweld â’r safle, a gorau oll os bydd rhywun yn y grŵp sy’n siarad Sbaeneg. Ana yng ngwesty Plasycoed wnaeth drefnu’r cwbl inni, neu tria’r blog . A’r enw? Roedd Florentino Ameghino yn ddaearegydd yn y G19eg. Y cyntaf i ysgrifennu am greigiau gwaddod Patagonia. Fe welir ei enw yn sawl lle: ardal eang ar lan y môr, yr argae enfawr ychydig uwchlaw’r safle, a’r goedwig hynafol ei hunan.

 

 


Responses

  1. Mae’r Termiadur yn cynnig ‘petraidd’ o dan ‘fforest betraidd’

  2. Diolch Neil – well gen i ‘goedwig’ na ‘fforest’ ond mae petraidd yn dda.

  3. Reblogged this on Bosque Petrificado Florentino Ameghino and commented:
    ¡El BPFA es visitado por turistas de todo el mundo! Gracias | The PFFA is visited by tourists from all over the world! Thanks

  4. Reblogged this on Bosque Petrificado Florentino Ameghino and commented:
    Excelente¡¡¡ muy bueno¡


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: