Ffermydd mawr, anifeiliaid mawr, coed mawr – sdim rhyfedd fod gan Batagonia hefyd deinosor sydd nid yn unig yn fawr, ond ‘y mwyaf sydd wedi ei ddarganfod erioed’. Ond beth sydd efallai yn rhyfedd, a diolch byth ei fod yn wir, yw bod gwaith ymchwil ar esgyrn yr hen ddeinosor, a rhai o’r esgyrn eu hunain, yn cael eu harddangos yn amgueddfa fach Trelew, Museo Paleontológico Egidio Feruglio .
Mae fideo yn esbonio ble a sut y cafwyd hyd i olion y creadur, yng nghanol y paith, yr anialwch sych sydd rhwng Gaiman a Chwm Hyfryd.
Dyma un o vertebrae Dreadnoughtus schrani, a ddarganfuwyd 7 mlynedd yn ôl. Mae wedi cymryd gymaint â hynny o amser i fod yn siŵr taw math o ddeinosor heb ei weld o’r blaen sydd dan sylw. Roedd y cawr yn pwyso 65 tunnell, ac yn ôl yr ymchwilwyr, doedd e ddim yn anifail aeddfed – h.y. roedd rhai mwy i gael! Ond beth sy’n bwysig iddyn nhw, yn hytrach na maint yr anifail, yw’r ffaith eu bod nhw wedi cael cymaint o’r esgyrn yn gyfan. Y rheswm am hynny, mae’n debyg, yw rhywbeth tebyg i’r goedwig betraidd: llifogydd sydyn ac anferth wedi boddi’r deinosor mewn haenen ddwfn o fwd.
Y femur (asgwrn y glun) oedd y rhan bwysicaf wrth benderfynu maint yr anifail, tua 30m o hyd. Ond mae’r gwaith o balu am fwy o esgyrn yn dal i fynd ymlaen, yn ogystal â’r gwaith caled ar yr olion eu hunain.
Mae gan yr amgueddfa ran awyr agored yn agos i Gaiman: Parc Bryn Gwyn (Bryn Gwyn a Bryn Crwn yw’r ddau fryn, neu gefnen, i’r de a’r gogledd o ddyfryn y Chubut.) Cerdded drwy dirlun sydd heb ei newid gan bobl yw amcan Parc Bryn Gwyn, ond a dweud y gwir os nag wyt ti eisoes yn gwybod eithaf lot am gynhanes ac am ddaeareg, gwell mynd mewn grŵp a chael tywysydd i esbonio pethau. Ond hyd yn oed hyb hynny, mae’n braf dringo i ben y bryn (oedd unwaith ac am gyfnod helaeth o dan y môr) i weld effaith pobl: parciau glas y ffermydd, a’r anialwch ar bob llaw.
Diddorol hefyd nodi taw ym Mhatagonia y daethpwyd o hyd i un o ddeinosors lleia’r byd: y manidens, oedd llai nag 1m o hyd ac yn perthyn i’r un grŵp â’r rhai anferth. Beth arall sy’n gorwedd o dan dywod y paith?
Gadael Ymateb