Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 30, 2014

Patagonia 08: y Dyffryn

Heddiw ar arfordir Asturias mae’n ddiwrnod llwyd a llaith, ond yn syndod o fwyn. Fis yn ôl roeddwn yn mwynhau tymheredd uchel a gwynt cryf yr ochr draw i’r Iwerydd, lle mae Dyffryn Chubut yn nesau at y môr. Prif sbardun y daith oedd ymweld â’r Wladfa, ychydig cyn y dathliadau mawr 1865-2015. Ond fel mae’r cofnodion eraill yn dangos, wnaethom ni lawer mwy na hynny. Nid wyf yn mynd i ysgrifennu hanes mewnfudwyr y Mimosa a’r llongau eraill, ond disgrifio ymweliad â thref ac ardal Gaiman heddiw. ‘Y Dyffryn’ yw enw Cymry Patagonia ar yr ardal a ddatblygwyd yn gyntaf, a ‘Chwm Hyfryd’, neu ‘yr Andes’ ar ardal Esquel a Threvelin.

Y peth cyntaf wnes i sylwi oedd ‘Bois bach, mae’r strydoedd yn eang, ac yn syth!’. Ond wedi meddwl, dyna oedd ffasiwn ail hanner y 19eg ganrif, yng ngogledd yr Amerig a hefyd yn Ewrop pan oedd dinasoedd yn cael eu hailadeiladu. A’r ail beth oedd ‘ond mae’r tai i gyd yn fach’. Tai unllawr yw’r hen rai, ar wahan i’r siopau ar y stryd fawr lle byddai teulu yn byw uwchben y gwaith.

P1170886

Yr hen swyddfa bost yw’r tŷ uchod, ond yr un yw’r patrwm ym mhob stryd. Ni fyddai tref Gaiman na ffermydd y dyffryn, y chacras, wedi ffynnu heb ddwrhau. Mae afon Chubut, a 2 gamlas, yn rhedeg drwy ganol y dref, a ffosydd llai yn darparu dŵr ar gyfer y caeau.

Afon Chubut, Gaiman

Afon Chubut, Gaiman

Ystyr yr enw Chubut, yn iaith y bobl Tehuelche, yw ‘disglair’. Nid felly yr afon fwdlyd a welsom yn y Dyffryn, ond mae’n wahanol yn yr ucheldir. (Ystyr Gaiman, gyda llaw, yw ‘maen hogi’).

P1170870

Hen lamp capel wedi ei drydaneiddio. Yn Sbaeneg mae’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau dyddiau hyn, ond roedd pawb yn awyddus iawn i groesawu pregethweyr o Gymru. Mae Archentwyr ar eu gwyliau yn dod i Gaiman am 2 beth: taith bws o gwmpas y dyffryn yn edrych ar y caeau a’r dwsin o gapeli, a the Cymreig. Bob dydd yr oedd bws o rywle yn dod ag ymwelwyr i fwyta sgons a phice a chacenni o bob math, ac i yfed te. Rhaid dweud bod y rhan fwyaf yn ei gymryd heb laeth.

Plyg bach i Ana yng ngwesty Plasycoed cyn cloi. (Dyma’r dudalen FB i’r tŷ te, ond hi sy’n rhedeg y ddau le.) Roedd yn lle dymunol i aros, ac mae hi bob amser yn barod i drefnu pethau i chi – hyd yn oed mynd i brynu’n tocynnau bws pan aethom ni dros y paith. Ac mae’n un o bileri’r diwylliant Cymraeg yn y dref. Un o’r bobl hynny sy’n byw tri bywyd – o leiaf – ar yr un pryd! Rwyf i wedi sôn am dai bwyta o’r blaen . Beth arall? Teithio o gwmpas: mae bysus yn rhad ac yn dod yn aml, i Drelew, Porth Madryn, neu dros y paith. Os rhentu car, rhaid cofio bod Ariannin yn dioddef problemau darparu petrol. Pan gyrhaeddodd y tancer Gaiman, roedd pawb yn gwybod amdano ac yn ciwio mewn dim o amser.

 

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: