Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 2, 2014

Patagonia 09: Croesi’r Paith

Roeddem ni wedi meddwl cymryd un o’r bysus servicio cama (gwely) a theithio rhwng Gaiman ac Esquel dros nos – arbed noson mewn gwesty, defnyddio pob awr oedd gyda ni i weld pethau Patagonaidd. Ond rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gwrando ar gyngor pobl y Dyffryn, achos nid yn unig y byddem ni mae’n siŵr wedi treulio noson anghyffyrddus yn ceisio cysgu mewn bws, ond byddem ni yn sicr wedi colli gweld y paith.

P1180013

Fe welsom ni beth ohono ar y daith i weld y pengwiniaid, ond anodd iawn yw mynegi eangderau’r anialwch sy’n llenwi’r 600km rhwng y Dyffryn a Chwm Hyfryd. Edrych yn rhy bell tua’r gorwel, ac mae i gyd i’w weld yn wag. Newid ffocws a byddi di’n sylwi bod ffens ar hyd yr heol. Mae pobl yn ffermio’r paith. (Wrth iet un fferm fe welais i gyrff 6 o genawon cadno wedi eu hestyn ar y ffens.) Dyw’r heol fodern (tarmac!) ddim yn dilyn afon Chubut yr holl ffordd, ond rwyt yn gallu gweld ei chwrs yn amlwg oherwydd y glesni a’r coed helyg ar ei hyd. (Coed a ddaeth o Ewrop, gyda llaw, ond sydd yn gyffredin iawn erbyn hyn.)

P1180015

 

Roedd y bws yn stopio mewn llefydd fel Paso de Indios (Rhyd yr Indiaid), i bobl esgyn a disgyn ond hefyd i lawer ohonyn nhw brynu dŵr twym ar gyfer eu mate. Te chwerw yw hwn, mae’n boblogaidd uffernol ac yn cael ei yfed drwy’r dydd o gwpan mate neu o gwpan teithio. Rhoi mwy o ddŵr ar hen ddail yw’r arfer nes bod y blas wedi mynd.

P1180017

Yn Rhyd yr Indiaid hefyd welais i’r siop fach hon:

P1180021

yr enw uwch y drws a dynnodd fy sylw. Siŵr taw Huwcyn yw’r perchennog! Roedd y bws ei hun yn gyffyrddus iawn, a’r teledu yn dangos ffilmiau fel Toy Story a The Hobbit yn ogystal â chaneuon pop, yn eu plith Gloria (Van Morrison) a You Give Love a Bad Name (Bon Jovi). Dim byd rhy fodern! Aethom ni â digon o fwyd gyda ni, ond roedd e hefyd yn bosib prynu pethau yn y gorsafoedd bach ar y ffordd. Roedd y daith yn 12 awr felly roedd angen rhywbeth.

Ddyddiau wedyn, aethom ni ar hyd yr hen lwybr dros y paith, o gyfeiriad Esquel tuag at arfordir yr Iwerydd, mor bell â Piedra Parada (Y Garreg Aros).

IMG_0369

300m o graig folcanig. Ac yn safle pwysig iawn i’r Cymry cyntaf i groesi’r paith, o’r rifleros ymlaen.. Roedd yn weladwy o bell, wrth gwrs, ond hefyd unwaith roedd y teithiwr wedi ei chyrraedd, roedd yn bosib gweld yr Andes, a diwedd y daith. A dyma nhw yn y pellter, a’u copaon yn wyn.

IMG_0374

Mae’r garreg a’r canion gerllaw yn denu dringwyr, ond yn y canion hefyd mae olion llefydd byw y bobl brodorol. Dyw e ddim yn hawdd cyrraedd y lle – dim bws, a diffyg arwyddion i’r rhai sy’n mynd mewn car – ond imi roedd yn ddiwrnod diddorol iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: