Un o’r cerddi mwyaf trist imi erioed yw ‘Torri Coed Glyn Cynon’ sy’n disgrifio dyfodiad diwydiant a darfod y goedwig. Ond cyn imi deithio drwy ardal Aysen yn ne Chile doeddwn i erioed wedi gweld olion diweddar gweithred tebyg.
Mae’n werth clico i weld y llun maint llawn: cae o borfa heb yr un anifail yn pori, y bryniau yn y cefndir yn llawn coed gweddol ifainc, cymhedrol eu maint, a boncyffion cewri’r goedwig a fu yn driphlith draphlith ar hyd y llawr. A hynny oherwydd polisi. Roedd llywodraeth Chile eisiau clirio’r tir ar gyfer amaeth, a hyd at ddiwedd y 1950au roeddent yn annog pobl i losgi erwau lawer. Fe ddwedodd ceidwad gwesty taw 4 miliwn o hectarau oedd y cyfanswm – dwywaith maint Cymru gyfan.
Y canlyniad yw bod rhai o’r coed mawr brodorol fel yr alerce a’r lenga (nothofagus pumilio, yn perthyn i deulu’r ffawydd), wedi mynd yn brin a phinwydd, sy’n tyfu’n gyflymach, wedi cymryd eu lle. Ac fel sy’n amlwg yn y llun, lladdwyd cynifer o goed nad oedd hi ddim gwerth hyd yn oed eu torri a thrin ac maen nhw yno yn y caeau hyd heddiw.
Yn awr mae’r rhod wedi troi, a chadw ac adnewyddu’r fforestydd yw nod y gwleidyddion yn ogystal â thrigolion yr ardal. Mae adnodd da fan hyn os oes diddordeb yn y pwnc, ond bydd eisiau cyfieithydd ar y sawl sydd ddim yn medru Sbaeneg.
Gadael Ymateb